Gweithio gyda ni
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd
Allech chi ein helpu i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o ymgysylltu â chynulleidfa ehangach, cofleidio a dathlu ein hunaniaeth, ein diwylliannau a'n hiaith yn well, a hyn i gyd gan hybu cynhwysiant cymdeithasol, cyfiawnder hinsawdd a chynaliadwyedd ariannol?
Mae Awen yn elusen sy'n darparu ystod eang o gyfleusterau a gweithgareddau diwylliannol ledled de-ddwyrain Cymru.
Mae'r rhain yn cynnwys y celfyddydau a theatrau, llyfrgelloedd, rhaglenni anabledd dysgu a pharc gwledig treftadaeth 113 erw.
Mae cenhadaeth Awen yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Pobl - mynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol a gwella lles gan ddefnyddio diwylliant i gysylltu pobl
- Lleoedd - cefnogi adferiad economaidd lleol drwy fuddsoddi mewn cyfleusterau ac annog ymwelwyr
- Busnes da - gwrando ar ein gweithlu a chefnogi eu lles wrth fod yn fusnes cynaliadwy
Fel ymddiriedolwr, byddwch yn cefnogi'r bwrdd gyda'ch sgiliau, eich priodoleddau a'ch profiad bywyd i ddarparu arweinyddiaeth, her, cyfeiriad strategol a llywodraethu da i gefnogi'r sefydliad a'i dimau.
Er mwyn ehangu ein sgiliau a'n harbenigedd, yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr sydd â phrofiad o arwain neu brofiad bywyd ac sy'n gallu cefnogi sawl un o'r meysydd canlynol:
Rheolaeth strategol o gyllid a chyfrifyddu
Iechyd a gofal cymdeithasol
Codi arian a chyfathrebu
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein bwrdd ymddiriedolwyr yn cynrychioli ein cymunedau ac yn cynnig amrywiaeth o syniadau i gefnogi'r hyn a wnawn.
Rydym yn annog ceisiadau gan bobl o bob oed, rhyw, unrhyw un sy'n cynrychioli'r mwyafrif byd-eang, y rhai sy'n LHDTCRhA+, yn anabl a/neu'n cynnig profiad bywyd a all gyfrannu at waith Awen.
Os ydych chi am ddod yn rhan o'n tîm angerddol ac ymroddedig, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol gyda'r Cadeirydd neu'r Prif Weithredwr cyn gwneud cais, e-bostiwch nicola.ashman@awen-wales.com i wneud trefniadau.
I wneud cais, lawrlwythwch ragor o wybodaeth yn ein Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr.
Dyddiad cau: 28ed CHWEFROR 2025.