Ein Straeon

Mae disgyblion o Ysgol Gyfun Maesteg wedi bod yn gweithio gyda’r gantores-gyfansoddwraig enwog Lowri Evans i ryddhau cân newydd sy’n cydnabod brwydrau merched dros genedlaethau tra’n dathlu eu cryfderau gyda gobaith am y dyfodol. Gwrandewch ar y trac 'Let's Show Them All' yma. Darllenwch fwy am y prosiect yma. Gyda diolch…
Bydd perfformiad cyntaf rhaglen ddogfen newydd 'Voices from Underground – A Dying Breed' yn cael ei chynnal am 2pm ddydd Sadwrn 29 Ebrill ym Mhafiliwn y Grand ym Mhorthcawl. Daw’r digwyddiad â phrosiect dwy flynedd i ben, a gydlynir gan Awen a’i gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n adrodd y straeon dynol y tu ôl i’r…
Nod Bwrsariaeth Ein Llais 2023 yw cefnogi dau artist o’r Mwyafrif Byd-eang, am flwyddyn, i fynd â’u gyrfa yn y celfyddydau i’r cam nesaf ac i wneud cysylltiadau pellach yn sector y celfyddydau yng Nghymru. Bydd y ddau dderbynnydd bwrsariaeth yn cael eu dewis trwy broses ddethol agored sy'n chwilio am y rhai…
Rydym yn edrych ymlaen at lansio prosiect newydd ar gyfer cartrefi gofal sy’n defnyddio technoleg fodern i frwydro yn erbyn unigedd o fewn gofodau sydd bellach yn cael eu hadnabod fel “ynysoedd yr hen”. Mae Inside Outside yn defnyddio profiadau VR i gynorthwyo hel atgofion trigolion trwy adeiladu llyfrgell o fideos 360 gradd o lefydd cyfarwydd y byddai pobl wrth eu bodd yn ymweld â nhw…
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Awen wedi gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr a Kitsch n Sync Collective i roi perfformiadau annisgwyl i ofalwyr ar draws y fwrdeistref sirol ar garreg eu drws. Mae The Kitsch n Sync Collective yn gwmni theatr o Gaerdydd y mae ei berfformwyr yn cyfuno genres dawns, cymeriadau a phropiau gwahanol,…
Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen bartneru â Live Music Now Wales i ddod â’r Prosiect Hwiangerdd enwog i deuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Yn fenter gan Sefydliad Cerddoriaeth Weill Carnegie Hall, Efrog Newydd am y 10 mlynedd diwethaf, mae'r Lullaby Project bellach yn ymestyn yn rhyngwladol. Dros wyth…
Yr wythnos diwethaf, lansiodd y cyn-löwr a chrwydrwr brwd iawn Roy Meredith ei lyfr Stepping Through Time yn Amgueddfa Glowyr De Cymru, yn swatio ym mhrydferthwch Cwm Afan. Mae llyfr Roy yn rhan o brosiect ‘Voices From Underground’ Awen, a gefnogir gan gyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n ceisio rhoi safbwynt personol…