Mae Parc Gwledig Bryngarw wedi cyrraedd y safon uchel sydd ei angen i chwifio’r Faner Werdd am flwyddyn arall! Rhoddir y wobr i barciau a mannau gwyrdd sy'n hygyrch i'r cyhoedd sydd wedi cyrraedd safonau rhyngwladol ym meysydd: lle croesawgar; iach, diogel a saff; wedi'i gynnal a'i gadw'n dda ac yn lân; rheolaeth amgylcheddol; bioamrywiaeth, tirwedd a…
Ein Straeon
Llongyfarchiadau i Julie Golden, Goruchwyliwr Llyfrgell Maesteg, sydd wedi ennill lle clodfawr ar restr 125 CILIP (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth). Mae’r rhestr hon yn cydnabod ac yn anrhydeddu cenhedlaeth newydd o lyfrgellwyr, gweithwyr proffesiynol rheoli gwybodaeth a gwybodaeth sy’n ysgogi newid cadarnhaol, yn gwneud gwahaniaeth ac yn cael effaith ar draws pob sector….
Mae Awen wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i les yn y gweithle. Roeddem yn un o 61 o sefydliadau i gymryd rhan yn seithfed Mynegai Llesiant Gweithle blynyddol Mind, ac rydym wedi cael ein cydnabod gyda Gwobr Aur. Dywedodd y Prif Weithredwr, Richard Hughes: “Rydym wrth ein bodd bod Mind wedi cydnabod Awen fel sefydliad sydd wedi gwreiddio meddwl…
Croeso mawr i Sid, ein recriwt mwyaf newydd. Mae Sid yn hyfforddai yn Wood-B, un o’n rhaglenni yn y gweithle ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, lle mae wedi ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i sicrhau swydd yn ein caffi ym Mharc Gwledig Bryngarw. Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Fel…
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Cadwch Gymru’n Daclus wedi lansio’r Hyb i alluogi ymwelwyr â’r parciau i fenthyg offer codi sbwriel am ddim. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Canolfannau Casglu Sbwriel wedi bod yn ymddangos ar draws y wlad fel rhan o Caru Cymru, menter fwyaf erioed Cadwch Gymru'n Daclus i gael gwared ar sbwriel a gwastraff. Bron i 200…
Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2023 a’u rhaglen haf o weithgareddau llyfrgell gyda digwyddiad llawn hwyl i’r teulu yng Nghaeau Trecelyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf rhwng 12pm a 3pm. Cefnogir y digwyddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymoedd i’r Arfordir, Celfyddydau a Busnes Cymru a Halo Leisure….
Fe'ch gwahoddir i weld arddangosfa o ailddatblygiad arfaethedig Pafiliwn y Grand, cyn i'r broses gynllunio ffurfiol ddechrau. Dydd Llun 3 Gorffennaf – dydd Sul 16 Gorffennaf Bar Oriel, Pafiliwn y Grand, Porthcawl Llun – Gwener: 9am – 4.30pm / Sadwrn: 9am – 5pm / dydd Sul: 10am – 5pm Gallwch siarad â phensaer…
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn gweithio mewn partneriaeth â Tanio i gynnig grwpiau celfyddydau creadigol wythnosol i unrhyw un sy’n cael trafferth gydag unigrwydd neu unigedd, sy’n byw gydag iechyd meddwl neu gorfforol gwael, neu a fyddai’n elwa o weld wyneb cyfeillgar, croesawgar neu gwrdd â phobl newydd. Gall cyfranogwyr hunangyfeirio gan ddefnyddio ffurflen ar-lein neu dim ond troi…
Bydd planhigion gwely'r haf a basgedi crog ar werth yn B-Leaf o ddydd Mercher 24 Mai. Bydd amrywiaeth eang o blanhigion, blodau a llwyni ar werth, yn ogystal â basgedi crog o wahanol feintiau. Mae rhestr brisiau 2023 ar gael i'w gweld yma. O ddydd Mercher 24 Mai tan ddydd Sul 2 Gorffennaf, bydd B-Leaf…
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tlodi data ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, drwy ddosbarthu data symudol am ddim a chardiau SIM i bobl sydd eu hangen, a chynnig hyfforddiant sgiliau digidol am ddim yn ei llyfrgelloedd. Cefnogir y fenter hon gan y Banc Data Cenedlaethol, a sefydlwyd gan Virgin Media 02,…