Ein Straeon

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi ymrwymo i bartneriaeth newydd i ddod â phantomeim proffesiynol i ddau o'i lleoliadau. Bydd y bartneriaeth newydd gyda Scott Ritchie Productions yn dod â phantomeim proffesiynol yn ôl i lwyfan Neuadd y Dref Maesteg sydd newydd ei hailddatblygu a’i hailagor y Nadolig hwn, yn ogystal â chynhyrchu’r sioe flynyddol fel rhan o…
Mae gŵyl deuluol Seascape hynod boblogaidd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn dychwelyd am yr ail flwyddyn ar ddydd Sadwrn 31 Mai a dydd Sul 1 Mehefin, gyda rhaglen lawn hwyl o berfformiadau awyr agored am ddim mewn lleoliadau ar draws Porthcawl. Nod Seascape yw darparu amserlen gyffrous o weithgareddau creadigol o safon uchel i’r gymuned leol ac ymwelwyr…
Mae Llyfrgelloedd Awen, y gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus sy’n cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi’i enwi’n Llyfrgell Gymreig y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydain 2025. Ynghyd ag enillwyr rhanbarthol a gwlad eraill – llyfrgelloedd ac awdurdodau llyfrgell o bob rhan o’r DU ac Iwerddon…
Mae Llyfrgell Betws wedi ailagor i'r cyhoedd yn dilyn ei hadnewyddu. Mae bron i £150,000 wedi’i fuddsoddi yn y prosiect, diolch i Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru ac arian cyfatebol a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Mae'r gwaith adnewyddu wedi: Creu mynedfa ehangach a mwy hygyrch i'r llyfrgell; Ail-ffurfweddu'r gofod i ddarparu cymuned hyblyg…
Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cynnal ei thrydedd Gŵyl Llên Plant Pen-y-bont ar Ogwr o ddydd Sadwrn 22 Chwefror tan ddydd Sadwrn 1 Mawrth, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth y DU. Mae’r ŵyl hanner tymor, a gynhelir ym Mharc Gwledig Bryngarw, Neuadd y Dref Maesteg a llyfrgelloedd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn gobeithio…
Mae bron i 600 o oedolion hyd yma wedi cofrestru ar gyfer Sialens 21 Llyfr gyntaf erioed Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ers ei lansio ym mis Gorffennaf; mwy na dwbl y niferoedd a ragwelwyd. Cefnogwyd y fenter gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Dros y chwe mis diwethaf, mae'r her wedi annog llyfrgelloedd…