Ein Hymrwymiadau a'n Haddewidion
Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, rydym wedi ymrwymo i helpu pobl ag anableddau i sicrhau, cadw a datblygu gyrfaoedd yn Awen. Rydym hefyd wedi ymrwymo i argymell gwerth cyflogi pobl ag anableddau a chyflyrau iechyd hirdymor, gan sicrhau bod ganddynt y cyfleoedd i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau.
Addewid Cydraddoldeb
Drwy lofnodi addewid Amser i Newid Cymru, rydym yn gwneud datganiad cyhoeddus ein bod am gynyddu ein hymdrechion i fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu iechyd meddwl yn y gymuned ehangach, drwy gymryd camau rhagweithiol ac ymarferol yn Awen.
Addewid Menopos yn y Gweithle
Drwy lofnodi'r Addewid Menopos yn y Gweithle, rydym yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod cydweithwyr sy'n profi symptomau perimenoposaidd a menoposaidd yn teimlo'n hyddysg ac yn cael eu cefnogi tra yn y gwaith; gan chwalu'r stigma a chreu gweithle sy'n addas i'r menopos.
Amser i Newid
Drwy lofnodi addewid Amser i Newid Cymru, rydym yn gwneud datganiad cyhoeddus ein bod am gamu i’r adwy i fynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl yn y gymuned ehangach, drwy gymryd camau rhagweithiol ac ymarferol o fewn Awen.
Siarter Afiechyd Marwol
Mae diagnosis o salwch angheuol yn dod â straen emosiynol enfawr, ofn, gorbryder ac ansicrwydd yn ei sgil. Drwy lofnodi'r siarter hon, rydym yn dangos ein hymrwymiad yn gyhoeddus i bob cydweithiwr, pe baen nhw'n wynebu cyfnod mor anodd yn eu bywydau, y bydd eu lles yn y gwaith yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
Arian Buddsoddwyr Mewn Pobl
Mae Awen wedi cyflawni achrediad Arian Buddsoddwyr mewn Pobl yn ystod ei asesiad cyntaf, gan amlinellu ein hymrwymiad i arwain ac ysbrydoli pobl, gwerthoedd ac ymddygiadau, rheoli perfformiad, gwobr a chydnabyddiaeth, datblygu a gwelliant parhaus.
Workplace Wellbeing Index MIND
Mae Awen wedi’i chydnabod â Gwobr Aur yn seithfed Mynegai Llesiant Gweithle blynyddol Mind, sy’n feincnod o bolisi ac arfer gorau, ac sy’n dathlu’r gwaith da y mae cyflogwyr yn ei wneud i hybu a chefnogi iechyd meddwl cadarnhaol yn eu gweithle.
Addewid Twf Gwyrdd
Drwy lofnodi'r Addewid Twf Gwyrdd, rydym yn cymryd camau rhagweithiol tuag at wella ein cynaliadwyedd ac yn dangos ein heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r lleoedd o'n cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy'n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel.
Gwobr y Faner Werdd
Mae Parc Gwledig Bryngarw wedi cael ei gydnabod fel enillydd Gwobr y Faner Werdd am y seithfed flwyddyn yn olynol. Mae cynllun Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod ac yn gwobrwyo parciau a mannau gwyrdd sydd wedi'u rheoli'n dda, gan osod y safon meincnod ar gyfer rheoli mannau awyr agored hamdden ar draws y byd.