Ein Dyfodol
Ailddatblygu Pafiliwn y Grand
Pafiliwn y Grand, Porthcawl
Mae Pafiliwn y Grand, theatr boblogaidd Porthcawl wedi derbyn £18m o Gyllid Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU, yn dilyn cais llwyddiannus gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n gweithio mewn partneriaeth agos ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Mae ailddatblygu Pafiliwn y Grand yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ni ddiogelu’r adeilad eiconig hwn i lawer o bobl am nifer o flynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau ei fod yn cadw ei safle fel lleoliad celfyddydau rhanbarthol a diwylliannol blaenllaw o ddewis.
Mae ymgynghori cyn ymgeisio yn rhan annatod o’n gwaith ac, yn ystod y broses o ddatblygu dyluniad prosiect ailddatblygu Pafiliwn y Grand, rydym ni wedi ymgymryd ag amserlen eang o ymgysylltu â chyrff statudol ac anstatudol, ymgynghorwyr arbenigol, grwpiau cymunedol a’r cyhoedd i ddatblygu cynllun sydd wedi’i lywio gan adborth eang.
Cynhaliwyd ein hymgysylltiad diweddaraf gyda’r gymuned rhwng 03 - 16 Gorffennaf 2023, ac fe wnaethom dderbyn nifer fawr o ymatebion yn dangos gwerth pensaernïol a chymdeithasol Pafiliwn y Grand. Fe wnaeth y sesiynau a’r arolygon gasglu adborth pwysig a chyflwynwyd safbwyntiau cadarnhaol, adeiladol a phryderus i ni eu hystyried a’u hymgorffori.
Ers i’r digwyddiad hwn ddod i ben rydym ni wedi treulio amser yn adolygu ac yn ymateb i’r adborth hwn, gan ddiwygio’r cynllun mewn ardaloedd allweddol i liniaru pryderon ac ymgorffori argymhellion sy’n ychwanegu gwerth pellach.
Rydym ni bellach yn cynnal cyfnod ymgynghori cyn ymgeisio statudol fel cyfle i gyflwyno’r cynllun diwygiedig yn ôl i’r gymuned, rhanddeiliaid ac ymgyngoreion, gan gynnwys mynediad i’r gyfres lawn o wybodaeth cais cynllunio drafft.
Byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yn gwerthfawrogi’n fawr pe gallech roi eich amser i roi eich adborth ar y cynigion cyn iddynt gael eu cyflwyno’n ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
Dilynwch y canllawiau ar ein hysbysiad safle isod i gofrestru eich ymatebion. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu os hoffech chi gael unrhyw arweiniad, cysylltwch drwy’r manylion sydd wedi’u nodi.
CADWRAETH, ADDASU A GWAITH ESTYNIAD ADEILAD GRADD II PAFILIWN Y GRAND, PORTHCAWL
Cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y'i diwygiwyd), mae'r cynnig yn destun ymgynghoriad statudol cyn ymgeisio.
Rhoddir hysbysiad bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio a Chaniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer atgyweirio cynhwysfawr, addasu ac estyniad i adeilad rhestredig Pafiliwn y Grand, Porthcawl.
Mae’r hysbysiad hwn yn rhoi’r cyfle i roi sylwadau yn uniongyrchol i’r datblygwr ar y cynigion cyn iddynt gyflwyno cais cynllunio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd unrhyw gais cynllunio dilynol yn cael ei gyhoeddi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ni fydd sylwadau sy’n cael eu rhoi mewn ymateb i’r hysbysiad hwn yn amharu ar eich gallu i gyflwyno sylwadau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar unrhyw gais cynllunio cysylltiedig. Dylech nodi y gallai unrhyw sylwadau a gyflwynir gael eu rhoi ar y ffeil gyhoeddus.
Y datblygiad arfaethedig ym Mhafiliwn y Grand, Esplanade, Porthcawl, CF36 3YW.
Gallwch archwilio copïau o'r cais arfaethedig, y cynlluniau, a'r dogfennau ategol uchod.
Mae'r holl luniadau, adroddiadau a dogfennau ategol ar gael i'w hadolygu ar-lein isod. Mae Llyfrgell Porthcawl yn cynnig cyfleusterau cyfrifiadurol gyda mynediad i'r rhyngrwyd i weld y cynigion. Lleolir y llyfrgell ar Church Place, Porthcawl, CF36 3AG ac mae ar agor fel a ganlyn:
Mae'r llyfrgell ar gau amser cinio rhwng 1 a 2pm.
Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau am y datblygiad arfaethedig hwn wneud hynny erbyn 31 Hydrefst 2023 trwy lenwi'r ffurflen isod.
Fel arall, e-bostiwch neu postiwch eich ymatebion i:
- grandpavilionconsultation@awen-wales.com
-
Tîm Ymgynghori Pafiliwn y Grand,
Pafiliwn y Grand,
Esplanade,
Porthcawl,
CF36 3YW - www.awen-wales.com/cysylltwch-ni/
Ymatebwch erbyn: 31/10/2023
Y ffurflen gais cynllunio drafft cyflawn i'w chyflwyno i Adran Gynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn egluro manylion penodol y cynllun arfaethedig.
Set o luniadau cofnod yn dangos cyflwr presennol Pafiliwn y Grand.
Set o luniadau i ddangos cwmpas gwaith atgyweirio a chadwraeth ffabrig i Bafiliwn y Grand i ddiogelu ffabrig hanesyddol.
Set o luniadau sy'n dangos cwmpas dymchwel a thynnu allan gofalus, gan dynnu ffabrig nad oedd yn wreiddiol a choncrit wedi'i ddifrodi i rannau sydd wedi'u diffinio'n ofalus.
Set o luniadau sy'n dangos maint y newid a‘r estyniad newydd i Bafiliwn y Grand; cyfres o fannau hyblyg a hygyrch i ddarparu cynaliadwyedd gweithredol ac i ddiogelu dyfodol Pafiliwn y Grand fel lleoliad celfyddydol rhanbarthol a diwylliannol blaenllaw o ddewis.
Mae Datganiad Mynediad yn ddogfen sy'n egluro uchelgais y datblygiad o ran darparu mynediad cyfartal i bob darpar ddefnyddiwr.
Mae Asesiadau Clwydfan Cychwynnol (PRA) yn cael ei gynnal ar safleoedd datblygu i asesu ardal er mwyn ei addasrwydd i ystlumod glwydo, porthi a chymudo. Roedd y PRA hwn yn dweud mai isel oedd y potensial clwydo ym Mhafiliwn y Grand, fodd bynnag, argymhellir cynnal Arolwg Ymddangosiad Ystlumod o fewn y tymor ystlumod.
Adolygiad acwstig o'r cynlluniau ailddatblygu arfaethedig, gan ddarparu argymhellion ar gyfer acwsteg ystafell benodol, gwahanu acwstig a rheoli sŵn yn dianc.
Arolwg Gwaelodlin Sŵn sy'n darparu disgrifiad o effeithiau sŵn posibl y datblygiad, crynodeb o bolisïau a deddfwriaeth berthnasol, manylion y lefelau sŵn sylfaenol ym Mhafiliwn y Grand a chanllawiau ar ddylunio acwstig i ddileu neu liniaru effaith sŵn yn yr ailddatblygiad.
Mae Datganiad Dylunio a Mynediad yn adroddiad sy'n cyd-fynd a chefnogi cais cynllunio. Mae'n dangos y broses sydd wedi arwain at y cynnig datblygu ac yn esbonio'r dyluniad.
Cliciwch yma i lawrlwytho adrannau 1–3 (PDF)
Cliciwch yma i lawrlwytho adran 4 (PDF)
Mae Asesiad o’r Effaith ar Dreftadaeth (HIA) yn broses strwythuredig i sicrhau bod arwyddocâd ased rhestredig a hanesyddol yn cael ei ystyried yn ofalus wrth ddatblygu a dylunio cynigion ar gyfer newid.
Mae Datganiad Trafnidiaeth yn werthusiad o effaith traffig datblygiad ar y Rhwydwaith Trafnidiaeth presennol.
Mae Cynllun Teithio yn strategaeth reoli hirdymor ar gyfer integreiddio cynigion ar gyfer teithio cynaliadwy i'r broses gynllunio. Maent yn seiliedig ar dystiolaeth o effeithiau trafnidiaeth disgwyliedig y datblygiad ac yn gosod mesurau i hyrwyddo ac annog teithio cynaliadwy.
Cwestiynau Cyffredin Ailddatblygu Pafiliwn y Grand
Yn amodol ar gwblhau Cam 4 RIBA yn llwyddiannus, a chaniatâd cynllunio ac adeilad rhestredig, rhagwelir y bydd Pafiliwn y Grand yn cau tua diwedd Ionawr 2024. Dilynir hyn gan gyfnod datgomisiynu i wagio’r adeilad cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.
Bydd y gwaith adeiladu yn cymryd tua dwy flynedd i'w gwblhau. Disgwylir i’r £18m o gyllid Lefelu i Fyny a ddyfarnwyd i ni gan Lywodraeth y DU gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2025 neu erbyn 2025-26 ar sail eithriadol.
Adeiladwyd Pafiliwn y Grand ym 1931-32 ac mae'n strwythur concrit fferrus yn bennaf. Er ei fod yn ddeunydd adeiladu blaengar ar y pryd, mae angen atgyweiriadau cynhwysfawr bellach ar yr adeilad o ganlyniad i dros 90 mlynedd o hindreulio a chynnal a chadw tameidiog [dolen i PDFs Cyflwr Corfforol]. Mae'r gost o atgyweirio a chadw Pafiliwn y Grand yn ei gyflwr presennol yn sylweddol. Bydd y cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio i wella'r lleoliad ar gyfer y gymuned nawr ac yn y dyfodol, gan ychwanegu theatr stiwdio newydd, oriel a stiwdios artistiaid a phafiliynau to. Bydd ein hymrwymiad i wneud y lleoliad yn gwbl hygyrch – am y tro cyntaf yn ei hanes – a sicrhau ei fod yn adeilad ynni-effeithlon hefyd yn cymryd swm sylweddol o’r cyllid.
Am y tro cyntaf yn ei hanes 90 mlynedd, byddwch yn gallu cael mynediad i Bafiliwn y Grand drwy’r brif fynedfa ganolog gyda ramp newydd o’r palmant a defnyddio lifft newydd i gael mynediad i bob llawr, gan gynnwys balconi’r awditoriwm a’r pafiliynau to newydd. . Bydd toiledau mwy hygyrch yn cael eu hychwanegu, yn ogystal â chyfleuster Lleoedd Newid sy’n cydymffurfio’n llawn.
Bydd, bydd y theatr stiwdio newydd ar y ddaear a'r oriel a stiwdios artistiaid ar lefel y stryd yn cael eu hadeiladu ar yr hen gyrtiau tennis, a ddefnyddir yn aml fel man parcio gorlif. Bydd y maes parcio presennol yn cael ei ad-drefnu i ganiatáu ar gyfer chwe man parcio hygyrch a phum man parcio safonol, gyda phwyntiau gwefru cerbydau trydan. Bydd yr ardal wedi'i thirlunio'n feddal i wella ei esthetig gweledol. Mae meysydd parcio o fewn pellter cerdded hawdd i Bafiliwn y Grand, yn ogystal â mannau parcio am ddim ar hyd y promenâd, a ddefnyddir gan ein cwsmeriaid. Mae meysydd parcio ychwanegol ym Mhorthcawl yn rhan o gynlluniau adfywio tref Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd, bydd ceiliog tywydd galiwn gwreiddiol Pafiliwn y Grand, sydd wedi cael ei gadw mewn storfa ers iddo gael ei ddifrodi yn ystod tywydd stormus, yn cael ei adfer a'i ddychwelyd i ben y gromen.
Ni fydd yr awditoriwm yn cael ei gyffwrdd i raddau helaeth gan yr ailddatblygiad, gan ei fod wedi'i gadw'n dda. Ychydig iawn o newidiadau a wneir i wella gweithrediadau a hygyrchedd. Bydd y capasiti yn aros o gwmpas y marc 680. Bydd gan y theatr stiwdio newydd gapasiti o tua 145 o seddi.
Byddwn yn gweithio gyda’r Rheolwr Datblygu Treftadaeth i ddyfeisio ffyrdd arloesol a chreadigol o adrodd stori Pafiliwn y Grand, gan gynnwys ei gysylltiadau â’r canwr Americanaidd enwog a’r actifydd hawliau sifil Paul Robeson, sydd o bwysigrwydd hanesyddol aruthrol. Byddwn hefyd yn siarad â phobl yn y gymuned leol i gasglu eu hatgofion o'r lleoliad, fel y gellir ailadrodd y rhain hefyd.
Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau traddodiadol a digidol i gyfleu diweddariadau gan gynnwys: sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb; cylchlythyrau printiedig; erthyglau mewn cyhoeddiadau lleol; gwefan Pafiliwn y Grand a chyfryngau cymdeithasol; hysbysfyrddau ar y safle; cylchlythyrau e-bost; a theithiau tu ôl i'r llenni, pan fo'n ddiogel gwneud hynny.