Yr hyn a wnawn
Llesiant Creadigol:
Hygyrchedd

Caneuon a Sgons
Rhaglen genedlaethol o gyngherddau cerddoriaeth fyw sy’n addas i bobl â dementia, gyda diodydd poeth a theisen.
Wrth ganolbwyntio ar y rhai hynny sy’n chwilio am weithgareddau creadigol cynnes a chymdeithasol, gan feithrin cyfeillgarwch a chymuned wrth wrthsefyll teimladau unigedd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
Sefydliadau Drama
Datblygu sgiliau bywyd hanfodol a hyder gyda drama, cerddoriaeth a symud trwy sesiynau mewn partneriaeth â Hijinx ar gyfer oedolion a phobl ifanc anabl a/neu awtistig, mewn theatrau Awen.

Cynyrchiadau Cynhwysol
Mewn partneriaeth â sefydliadau fel Taking Flight a Frozen Light rydym wedi ymrwymo i gynnig profiadau theatr pwrpasol ar gyfer oedolion, plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac anableddau, o natur amlsynhwyraidd a hamddenol ond yn llawn ansawdd a phrofiad.
Be Hear Now
Gweithdai cerddoriaeth hamddenol ar gyfer oedolion, plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac anableddau a’u teuluoedd.
Sesiynau hamddenol, synhwyraidd, sy’n archwilio cerddoriaeth, creadigrwydd a symud wedi’u cefnogi gan gerddorion profiadol, sydd wedi’u hyfforddi’n broffesiynol o Live Music Now.