Yr hyn a wnawn
Ty Bryngarw
& Parc Gwledig
Ty Bryngarw
& Parc Gwledig
Ymddangosodd Bryngarw gyntaf yng nghofnodion tir 1569 a chredir i’r Plas gael ei adeiladu yng nghanol y 1700au gan deulu Popkin o Forgannwg. Agorwyd Bryngarw yn swyddogol i’r cyhoedd fel parc gwledig ym mis Mai 1986. Ers hynny mae wedi ennill llawer o anrhydeddau gan gynnwys statws y Faner Werdd a Threftadaeth Werdd, gan ei gydnabod fel un o fannau gwyrdd gorau’r DU.
Parc Gwledig Bryngarw
Gyda dros 100 erw o ddolydd, gerddi a choetiroedd aeddfed, mae Parc Gwledig Bryngarw yn lle diddorol i ymweld ag ef drwy gydol y flwyddyn.
Gall ymwelwyr fwynhau tawelwch blodeuol yr Ardd Ddwyreiniol; cerdded drwy goedwigoedd â charped o glychau’r gog dan draed; cerdded ar hyd glannau Afon Garw yn chwilio am Fronwen y Dŵr a Glas y Dorlan; gan wylio plant yn mwynhau’r iard chwarae gyda’i sleid tŵr enwog ac offer chwarae hygyrch.
Mae’r Parc yn denu dros 240,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
Ty Bryngarw
Mae Ty Bryngarw yn un o’r lleoliadau mwyaf poblogaidd i briodi ynddo yn ne Cymru, ym Mharc Gwledig Bryngarw. Mae ar gael i’w archebu yn arbennig ar gyfer dathliadau, ac mae wedi’i drwyddedu ar gyfer seremonïau sifil.
Gall Ystafelloedd Treharne, sydd wedi’u lleoli yn y prif adeilad, ddal hyd at 110 o westeion, a gall y babell anhygoel gynnig lle i hyd at 250 o westeion ar gyfer derbyniad gyda’r nos.
Mae’r llety dros nos, gan gynnwys ystafell mis mêl sy’n edrych dros y lawnt, wedi’i adnewyddu’n ddiweddar ac mae wedi’i leoli yn Nhŷ Bryngarw a’r Tŷ Coets gerllaw.