Amdanom ni
Ein Pwrpas a'n Gwerthoedd
Ddarparu cyfleoedd i bobl a chymunedau brofi, mwynhau a chael eu hysbrydoli gyda’i gilydd, gan ddiwylliant
Sgiliau
Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol
Gallwn wneud hyn drwy ddarparu cyfleoedd i bobl a chymunedau brofi, mwynhau a chael eu hysbrydoli gyda’i gilydd gan ddiwylliant.
Ar hyn o bryd, mae Awen yn gweithio ledled ardaloedd tri awdurdod lleol yn ne Cymru – Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.
Rydym yn gweithredu ystod o gyfleusterau a gweithgareddau diwylliannol, gan gynnwys theatrau, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, plasty a pharc gwledig a dau brosiect seiliedig ar waith ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu. Mae Awen yn denu dros filiwn o ymweliadau i'w lleoliadau a'i gwasanaethau bob blwyddyn.
EIN GWERTHOEDD
CREADIGOL
Yn archwilio ffyrdd newydd a chreadigol yn barhaus er mwyn gwella ei dull o weithredu, hyrwyddo arloesedd ac ymateb i’r byd sy’n newid.
GRYMUSOL
Yn grymuso pobl i gyflawni eu potensial a gwneud i bethau da ddigwydd.
CYDWEITHREDOL
Yn datblygu cydberthnasau cadarnhaol yn fewnol ac yn allanol â chydweithwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid.
TEG
Striving to be fair in all its dealings, respecting one another and the community.
Mae ein nodau strategol yn canolbwyntio ar dri maes allweddol:
Pobl
Rydym yn awyddus i fod yn rym er gwell wrth fynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol a gwella llesiant, defnyddio diwylliant i gysylltu pobl â’i gilydd, cynnal cymunedau a lleihau’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan.
Lleoedd
Rydym yn awyddus i feithrin ymdeimlad o le a chefnogi adferiad economaidd lleol gan fuddsoddi yn ein cyfleusterau, hyrwyddo eu treftadaeth, annog ymwelwyr a phrynu’n lleol lle y bo modd.
Busnes Da
Byddwn yn gwrando ar ein gweithlu ac yn cefnogi ei lesiant; a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar fod yn fusnes cyfrifol, cynaliadwy a gaiff ei lywodraethu’n dda.
Bwrdd
Ymddiriedolwyr
Llywodraethir Awen gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr gwirfoddol sy’n gyfrifol am arwain yr elusen ac am sicrhau ei bod yn cyflawni ei gylch gwaith.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn cynnig ystod o sgiliau, priodoleddau, profiad a gwybodaeth gymunedol sydd at ei gilydd yn eu galluogi i ddarparu arweinyddiaeth a llywodraethu da.