Os ydych yn ofalwr di-dâl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a oeddech chi’n gwybod y gallwch wneud cais am grant Amser o hyd at £400 i’w ddefnyddio ar seibiant byr hyblyg drwy’r elusen TuVida? Gall seibiannau gynnwys aros dros nos, teithiau dydd, gweithgareddau chwaraeon a mynediad i danysgrifiadau neu aelodaeth.
Rydym yn falch o gefnogi’r cynllun hwn yn Awen, lle gellid defnyddio grantiau i brynu tocynnau ar gyfer ein theatrau neu docyn tymor maes parcio ym Mharc Gwledig Bryngarw, er enghraifft. Beth am fwynhau ymweliad Nadoligaidd â’r pantomeim eleni, Beauty and the Beast, ym Mhafiliwn y Grand ym Mhorthcawl?
Am fanylion llawn ac i wneud cais, ewch i www.tuvida.org/amser.
I fod yn gymwys am grant rhaid i chi fod yn ofalwr di-dâl ac yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gofalwr yw rhywun sy’n gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o’r teulu na all, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth ymdopi heb eu cefnogaeth.
Ariennir y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru.