Sgiliau Awen
Sgiliau
Tech
Technegydd Theatr - Cyrsiau Byr
Dysgwch grefft llwyfan wrth gael profiad ymarferol yn y Met yn Abertyleri a lleoliadau eraill yn Awen.
O gynllunio a gosod offer cyn perfformiadau i weithredu rigiau goleuo a desgiau sain yn ystod sioeau, mae Technegwyr Theatr yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob cynhyrchiad yn llwyddiant.
Bydd ein cyrsiau Technegydd Theatr yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth ymarferol sydd eu hangen arnoch i adeiladu gyrfa lwyddiannus yn gweithio y tu ôl i’r llenni ar ddigwyddiadau byw, perfformiadau llwyfan a chynyrchiadau seiliedig ar leoliad.
Gan weithio gydag offer o safon diwydiant dan arweiniad gweithwyr proffesiynol technegol theatr cymwys, cewch gyfle i ddysgu am:
- Meddalwedd QLab a ddefnyddir ar gyfer dylunio a chwarae yn ôl sain, fideo, golau, a dangos ciwiau rheoli.
- Sefydlu systemau goleuo a rhaglennu consol goleuo.
- Gweithio gyda systemau PA, consol sain a mics.
- Rheoli llwyfan a dylunio set.
- Sut i weithredu systemau hedfan llwyfan.
- Profion PAT, trydan theatr a gofynion iechyd a diogelwch eraill.
Mae'r sesiynau yn RHAD AC AM DDIM a bydd yn rhedeg o Medi 2023 i Mawrth 2024 yn y Met yn Abertyleri o 6pm – 9pm ymlaen Dydd Llun gyda'r nos (yn ystod y tymor yn unig).
Nid oes angen profiad blaenorol - agored i unrhyw un 16 oed a hŷn.