Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi derbyn cyllid o dros £130,000 gan Lywodraeth Cymru a'r Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i wella'r coetiroedd hanesyddol ym Mharc Gwledig Bryngarw.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i: wneud gwaith cadwraeth ar y coed presennol; adeiladu llwybr pren a llwyfan gwylio newydd; plannu coed llydanddail brodorol lled-aeddfed; gosod gatiau newydd, meinciau derw a blychau draenogod ac adar; ychwanegu arwyddion a dehongliad; cynnal rhagfur afon; ac ymdrin â rhywogaethau ymledol gan gynnwys Canclwm Japan a Jac y Neidiwr o fewn y safle 113 erw.
Bydd y grant hefyd yn talu am gost offer a hyfforddiant sgiliau i staff a gwirfoddolwyr ar gyfer cynnal a chadw parhaus y coetiroedd, gosod wyneb newydd ar rai o lwybrau troed Bryngarw i’w gwneud yn fwy hygyrch i ymwelwyr â symudedd cyfyngedig a chreu ystafell ddosbarth coetir a phecyn addysg i ysgolion a grwpiau i ddysgu am ecosystemau coetir.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn ymgysylltu â’r gymuned leol a sefydliadau partner, a gobeithiwn y byddant yn ein cefnogi i gyflawni’r prosiect cyffrous hwn. Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am fanylion digwyddiadau a chyfleoedd!