Creodd y sefydliad, un o ddyfarnwyr grantiau elusennol mwyaf ac uchaf ei barch y DU, Gronfa Ddiwylliant Weston un-tro y llynedd i gefnogi sector y celfyddydau a diwylliant i ailddechrau ei waith, adfywio gweithgareddau ac ailennyn diddordeb cynulleidfaoedd yn dilyn cau coronafeirws.
Bydd Awen, yr elusen gofrestredig sy’n darparu cyfleoedd i bobl a chymunedau brofi, mwynhau a chael eu hysbrydoli gan ddiwylliant er budd eu lles, yn defnyddio’r cyllid i wella profiadau cwsmeriaid ym Mhafiliwn y Grand ym Mhorthcawl.
Bydd hyn yn cynnwys: prynu offer sinema digidol, i ddatblygu maes rhaglennu newydd; ailddatblygu'r bariau a'r ciosg lluniaeth, i atal gorlenwi mewn mannau gwerthu; prynu sgriniau hysbysebu digidol, i greu marchnata mwy hyblyg a deniadol; gosod dolen glyw is-goch, i wneud perfformiadau yn fwy hygyrch i gynulleidfaoedd byddar a thrwm eu clyw; prynu lloeren ddarlledu i alluogi darllediad byw o berfformiadau theatr, fel National Theatre Live, i Bafiliwn y Grand; a chynhyrchu fideo i roi sicrwydd i gwsmeriaid ar y mesurau diogel Covid-19 sydd ar waith cyn iddynt ddychwelyd i'r lleoliad.
Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Garfield Weston, Philippa Charles:
“Mae ein sector diwylliannol wrth galon ein cymunedau lleol, gan ddarparu nid yn unig adloniant ond addysg ac ysbrydoliaeth i lawer. Gwnaeth yr ysbryd entrepreneuraidd a ddangoswyd ar draws y celfyddydau mewn ymateb i Covid-19 argraff ar ein Hymddiriedolwyr ac roedd yn fraint clywed yr hyn y mae sefydliadau wedi bod yn ei wneud, nid yn unig i oroesi ond hefyd i ailddyfeisio’r ffordd y maent yn cyrraedd cynulleidfaoedd. Yr hyn a oedd yn wirioneddol amlwg oedd lefel y cydweithio a’r gefnogaeth a gawsant i’w gilydd a’r penderfyniad i ddal ati, er gwaethaf y sefyllfa gynyddol anodd.
“Rydyn ni i gyd eisiau ac angen ein sector diwylliannol i ffynnu ac, os rhywbeth, mae ein hamser i ffwrdd o’r celfyddydau wedi dangos pa mor bwysig ydyn nhw i ni – gan ddod â phleser a chyfoethogi mawr ei angen i’n bywydau. Mae sefydliadau celfyddydol yn ysu i ail-agor a dychwelyd at yr hyn y maent yn ei wneud orau, a gobeithiwn y bydd y cyllid hwn yn helpu llawer ohonynt i wneud yn union hynny.”
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:
“Mae’n anodd credu ei bod hi bron yn flwyddyn ers i ni gau drysau Pafiliwn y Grand, a’n lleoliadau eraill, i chwarae ein rhan yn atal lledaeniad Covid-19 o fewn ein cymunedau. Mae’r 11 mis diwethaf wedi bod yn ddinistriol i’r sector diwylliannol ond rydym i gyd wedi ymrwymo i gydweithio i wneud yr hyn a allwn i ail-agor ein drysau ac annog ein cynulleidfaoedd i ddychwelyd cyn gynted ag y bo’n ddiogel i wneud hynny.
“Rydym mor ddiolchgar i’r gefnogaeth ariannol a gynigir gan Sefydliad Garfield Weston, a fydd yn ein galluogi i wneud nifer o welliannau ymarferol a digidol ym Mhafiliwn y Grand, er diogelwch, lles a hygyrchedd ein cwsmeriaid. Mae’r grant hwn yn ein helpu i edrych yn gadarnhaol tuag at y dyfodol ac mae wedi rhoi hwb gwirioneddol i’r tîm, sy’n dod o hyd i ffyrdd newydd, creadigol o gyflwyno profiadau diwylliannol o ansawdd uchel i bobl Pen-y-bont ar Ogwr a’r rhanbarth ehangach tra bod y lleoliad yn parhau ar gau.”
Roedd Cronfa Ddiwylliant Weston yn agored i elusennau celfyddydol a gofrestrwyd yn y DU gydag incwm blynyddol cyn-Covid o £500,000 o leiaf, yn rhychwantu amgueddfeydd, orielau, theatrau a chwmnïau dawns, ond heb gynnwys safleoedd treftadaeth a gwyliau â therfyn amser. Yn ôl gwefan y sefydliad, “roedd maint yr angen yn amlwg gyda chyfanswm ceisiadau o dros £128m”, gan arwain ymddiriedolwyr i roi hwb o £5m i faint y pot ariannu gwreiddiol.