Dywedodd Prif Weithredwr Awen, Richard Hughes: “Fel sefydliad elusennol, mae’n fraint i ni weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i hyrwyddo, datblygu a sicrhau dyfodol disglair i’r theatrau poblogaidd hyn.
“Rydym yn gyffrous iawn i ddod â rhaglen wych arall o gomedi, theatr, cerddoriaeth a'r celfyddydau i chi; yn bendant mae rhywbeth i bawb ei fwynhau! Mae ein llyfryn ar ei newydd wedd yn rhoi eich canllaw llawn i chi mewn un lle.
“Byddwch hefyd yn dod o hyd i fanylion digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn ein lleoliadau eraill yn Awen, gan gynnwys y llyfrgelloedd a Pharc Gwledig Bryngarw, pob un ohonynt yn gyfeillgar i deuluoedd a llawer ohonynt am ddim.”
I lawrlwytho copi o'r llyfryn cliciwch yma.
Rydym wedi ymrwymo i gynnig profiad cwsmer rhagorol i chi ym mhob un o'n lleoliadau. Rydym yn croesawu eich barn, awgrymiadau, cwestiynau, sylwadau a straeon llwyddiant. Anfonwch e-bost atom yn: adborth@awen-cymru.com.