Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen fydd yn cynnal Gŵyl Ffilm Cwm Llynfi gyntaf yn Neuadd y Dref Maesteg o 12ed – 15ed Mawrth.
Bydd yr ŵyl, sydd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy ei Chronfa Arddangos Ffilm, yn cynnwys ffilmiau Cymraeg gydag uwchdeitlau Saesneg, Holi ac Ateb gyda gwneuthurwyr ffilm a gweithdai gwneud ffilmiau. Rhestrir rhaglen lawn o ddigwyddiadau isod.
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:
“Yn Awen, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i’r gymuned brofi diwylliant trwy gyfrwng y Gymraeg, boed yn rhugl, yn ddysgwr neu’n gefnogwr yr iaith.
“Rydym yn arbennig o falch o fod yn dangos 'Gwlad! Gwlad!' fersiwn ffilm o ddrama Gymraeg gyntaf Awen, gafodd ei chynhyrchu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd y llynedd. Gwyddom fod cymunedau Cwm Llynfi mor falch o’u hetifeddiaeth felly mae’n addas fod drama am gyfansoddiad ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn cael ei dangos ym Maesteg, lle perfformiwyd yr anthem genedlaethol am y tro cyntaf erioed.
“Rydym yn ddiolchgar i Ganolfan Ffilm Cymru, Ffilm Cymru, BFI, Y Loteri Genedlaethol a’n partner Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am eu cefnogaeth gyda’r ŵyl gyntaf hon.”
Ychwanegodd Hana Lewis, Pennaeth Canolfan Ffilm Cymru:
“Rydym yn falch iawn o gefnogi Gŵyl Ffilm gyntaf Cwm Llynfi trwy ein cronfa arddangos ffilm, yn y gofod newydd anhygoel hwn yn Neuadd y Dref Maesteg. Gobeithiwn y bydd yr ŵyl yn helpu i dyfu cynulleidfaoedd yma. Un sy'n caru sinema yn ei holl ffurfiau ac un sy'n chwilio am ffilmiau Cymreig. Mae’r ŵyl hefyd yn cysylltu’n agos â’n menter Made in Wales, sydd wedi’i dylunio i ddathlu ffilmiau â chysylltiadau Cymreig. Mae’n cynnig cyfle perffaith i ail-lansio sgan newydd o enillydd Bafta 2000 Emlyn Williams, Oed Yr Addewid, y bu’n bleser gennym bartneru ag Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru i’w ail-ryddhau. Gobeithiwn mai dyma’r gyntaf o lawer o wyliau i ddod.”
Mercher 12ed Mawrth | 11.30yb – 1.30yp | Am ddim i alw heibio | Telynores a chantores: Bethan Nia |
7pm | Tocynnau o £5 | Ffilm: Oed yr Addewid (15) | |
Iau 13ed Mawrth
|
10am, 11am a 12pm | Am ddim i alw heibio | Ffilm Cymru yn cyflwyno cyfres o ffilmiau byr: Cwch Deilen, Fisitor, Dim Ond Ti a Mi, Cŵn Annwn, Organic (canllaw oed 12+) |
2pm – 4pm (gydag egwyl) | Am ddim ond archebwch ymlaen llaw | Panel: Ffilm Cymru yn cyflwyno panel ar wneud ffilmiau Cymraeg, gan gynnwys pobl greadigol o ffilmiau a sefydliadau fel Gwledd, Patagonia, Sinema Cymru, Cwch Deilen, Fisitor a Dim Ond Ti a Mi | |
7pm | Tocynnau o £5 | Ffilm: Gwledd (18) | |
Gwener 14ed Mawrth | 10am | Tocynnau o £4 | Ffilm: Hedd Wyn (15) |
2pm | Am ddim ond archebwch ymlaen llaw | Ffilm: Gwlad! Gwlad! | |
Sadwrn 15ed Mawrth | 10am | Am ddim ond archebwch ymlaen llaw | Ffilm: Superted – Y Siop Degannau ac Afon Teifi (PG) |
12.30pm | Am ddim ond archebwch ymlaen llaw | Gweithdy: Gweithdy Gwneud Ffilm Cynghrair Sgrin Cymru (12 – 18 oed) |
Am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau, ewch i www.maestegtownhall.com