Bu un ar bymtheg o fyfyrwyr o Ysgol Gyfun Maesteg ac Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn dangos eu ffilm iBroadcast Neuadd y Dref Maesteg am y tro cyntaf i deulu, ffrindiau a gwesteion ym mis Rhagfyr.

Mae’r ffilm fer yn benllanw tridiau o weithdai a mentoriaeth gan y dadansoddwr chwaraeon enwog, sylwebydd teledu a chyn-hyfforddwr rygbi’r undeb, Sean Holley, gyda chefnogaeth tîm y cwmni technoleg dysgu arobryn Aspire 2Be.

Mae iBroadcasts yn rhaglenni hyfforddi ymarferol, sy’n rhoi profiad i fyfyrwyr o bob agwedd ar y broses ddarlledu – ymchwil, ysgrifennu sgriptiau, cyfweld, goleuo, sain, cyflwyno a golygu – i ddatblygu eu hunanhyder, cyfathrebu, cymhwysedd digidol a sgiliau arwain.

Mae iBroadcast Neuadd y Dref Maesteg yn arddangos hanes neuadd y dref gydag amrywiaeth o hen luniau a fideo, a chyfweliadau gyda staff Awen ac aelodau o'r gymuned leol am ailddatblygu ac ailagor yr adeilad yn ddiweddar.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Yn dilyn llwyddiant iBroadcast Pafiliwn y Grand yn gynharach eleni, roeddem yn falch iawn o gydweithio unwaith eto gyda Sean a thîm Aspire 2Be i greu’r ffilm wych hon am Neuadd y Dref Maesteg. Dylai'r myfyrwyr a'u hysgolion fod yn wirioneddol falch o'u cyflawniadau.

“Wrth weithio gyda’i gilydd, maen nhw nid yn unig wedi cynllunio, ymchwilio a chyflwyno ffilm fer o ansawdd uchel, ond maen nhw wedi datblygu casgliad o sgiliau gwerthfawr a throsglwyddadwy y gallant eu defnyddio yn eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.

“Ni fyddai mentrau gwerth chweil fel hyn yn bosibl i elusennau fel Awen heb arian grant felly rydym yn diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth barhaus. Edrychwn ymlaen at rannu’r iBroadcast arbennig hwn gyda’n cymunedau lleol drwy ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn fuan iawn.”

Ychwanegodd Ryan Evans, Uwch Arbenigwr Dysgu yn Aspire 2Be:

“Roedd yn hynod ysbrydoledig gweld y cyfranogwyr ifanc yn esblygu mor gyflym, yn gymdeithasol ac yn bersonol, trwy gydol y prosiect. Fe wnaethon nhw fanteisio’n llawn ar y cyfle i ddysgu sgiliau digidol a chyfryngol newydd. Trwy gyflwyno a chynnal cyfweliadau, buont yn archwilio hanes hynod ddiddorol Neuadd y Dref Maesteg, gan dyfu i fod yn storïwyr hyderus. Mae eu hangerdd a’r sgiliau a enillwyd ganddynt yn amlygu effaith drawsnewidiol prosiectau hanesyddol ymarferol wrth ddatblygu gwybodaeth dechnegol a datblygiad personol.”

Mae’r ffilm ar gael i’w gweld yma: https://youtu.be/QwU7KaC-bec?si=wqiJHdtvcJx3TgPa