Mae asesiad blynyddol Llywodraeth Cymru (2023-24) o’r gwasanaeth llyfrgell ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cydnabod ei “ystod drawiadol o weithgareddau”, “cymorth i bobl ag ystod eang o anghenion a diddordebau, yn enwedig y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol” a “ ffocws cryf ar ddarpariaeth plant”.

Mae fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru (SLlCC) yn galluogi darparwyr i gynllunio eu darpariaeth, yn galluogi’r cyhoedd i ddeall yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan eu gwasanaeth llyfrgelloedd lleol, ac yn galluogi Llywodraeth Cymru i asesu perfformiad yn erbyn dyletswyddau Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964.

Rheolir y gwasanaeth llyfrgell ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n gweithredu deg llyfrgell (dwy ar y cyd â Halo Leisure), gwasanaeth 'Llyfrau ar Glud' i'r rhai sy'n gaeth i'w cartrefi, a'r Llyfrgell Hanes Lleol ar gyfer y sir gyfan.

Canfu asesiad SLlCC fod gwasanaeth llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr yn perfformio'n dda, gyda chynnydd nodedig mewn benthyca llyfrau ar-lein, nifer y defnyddwyr llyfrgell gweithredol a phresenoldeb mewn digwyddiadau; adroddodd yr olaf fel yr uchaf yng Nghymru y pen.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Rydym yn falch o asesiad SLlCC llwyddiannus arall sy’n cydnabod ein llyfrgelloedd fel gofodau ffyniannus a bywiog sy’n cynnig cyfoeth o wybodaeth, adnoddau, cyfleoedd a gweithgareddau wrth galon y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rwyf bob amser wedi fy nghalonogi gan yr adborth a gawn gan ein defnyddwyr llyfrgell a’r effaith y mae ein timau a’n gwasanaethau cefnogol yn ei chael ar eu bywydau; mae tystiolaeth wirioneddol bod llyfrgelloedd yn gwneud cymaint i leihau unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol a gwella lles.

“Mae’r asesiad hefyd yn nodi’r pwysau ariannol sylweddol sy’n wynebu awdurdodau lleol a sut y gallai hyn effeithio ar berfformiad gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru yn y blynyddoedd i ddod. Yn Awen, rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i esblygu ein darpariaeth i weddu orau i anghenion ein cymunedau a chynnal yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd John Spanswick: “Mae ein llyfrgelloedd yn aml yn gonglfeini cymunedau, gan gynnig ystod o gefnogaeth ac adnoddau i’r amrywiaeth eang o grwpiau o bobl sy’n byw yn y fwrdeistref sirol.

“Mae’n hyfryd gweld bod ein ffocws ar ddarpariaeth plant, a chynwysoldeb ein gwasanaethau llyfrgell, yn cael eu hadlewyrchu yn yr asesiad, yn ogystal â chyflwr iach ein llyfrgelloedd, yn arbennig wedi’i danlinellu gan y ffaith bod gennym y nifer uchaf o ddefnyddwyr llyfrgell gweithredol. a phresenoldeb mewn digwyddiadau yng Nghymru fesul pen.

“Rwy’n siŵr y byddwn yn parhau i fynd o nerth i nerth, er gwaethaf yr hinsawdd ariannol bresennol, drwy barhau i gydweithio gyda’n partneriaid yn Awen, yn ogystal â’n cymunedau, a sicrhau addasu a datblygu yn ôl yr angen.”