Ochr yn ochr â’n partneriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, roedd yn bleser gennym groesawu Huw Irranca-Davies AS, Stephen Kinnock AS, teulu’r artist lleol enwog Christopher Williams ynghyd â phwysigion eraill i nodi agoriad swyddogol Neuadd y Dref Maesteg ddoe.
Torrodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd John Spanswick a Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Heather Griffiths y rhuban i agor yr adeilad yn swyddogol i'r cyhoedd oedd yn aros.
Cafodd ymwelwyr fwynhau taith o amgylch y cyfleusterau cwbl newydd a llawer gwell a chawsant eu diddanu gan gorau ysgolion lleol, telynores yn ogystal â chael mynychu digwyddiadau yn y llyfrgell newydd sbon.
Byddwn yn rhannu mwy o ddelweddau o’r adeilad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol dros y dyddiau nesaf.