Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi derbyn £5,000 o arian y Loteri Genedlaethol gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy ei Chronfa Arddangos Ffilm i ddod â sinema fforddiadwy i Neuadd y Dref Maesteg, yn dilyn ei hailddatblygiad gwerth miliynau o bunnoedd.
I ddathlu lansiad Sinema Y Bocs Oren yng ngofod stiwdio newydd sbon y Neuadd, bydd diwrnod llawn o ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig ar ddydd Sadwrn 30ain Tachwedd. Mae'r rhain yn cynnwys: Kensuke's Kingdom am 10am; The Proud Valley am 1pm; Patagonia am 4pm; a Under Milk Wood am 7pm.
Drwy gydol mis Rhagfyr, bydd ffefrynnau’r Nadolig i deuluoedd yn cael eu dangos ar y sgrin fawr yn y cyfnod cyn y Nadolig, gan gynnwys Home Alone, The Muppets Christmas Carol, It’s a Wonderful Life a The Holiday. Dim ond £4.20 yr un yw pris y tocynnau www.maestegtownhall.com.
Mae cynlluniau hefyd ar y gweill ar gyfer Gŵyl Ffilm gyntaf Cwm Llynfi ym mis Mawrth 2025. Credir mai hi yw’r unig ŵyl o’i bath yn Ne Cymru, bydd yr ŵyl yn cynnig rhaglen wedi’i churadu o ffilmiau Cymraeg i helpu i hyrwyddo Cymru, ei diwydiannau creadigol llwyddiannus a’r Gymraeg i gynulleidfaoedd lleol.
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:
“Bu uchelgais Awen erioed, mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i ddarparu profiad sinema o ansawdd uchel, sy’n hygyrch ac yn fforddiadwy i bawb, fel rhan o Neuadd y Dref Maesteg ar ei newydd wedd. Diolch i’r cyllid hwn gan Ganolfan Ffilm Cymru, gallwn gynnig cyfleoedd newydd i gymunedau Maesteg, a thu hwnt, fwynhau amrywiaeth o ffilmiau rhyngwladol ac annibynnol mewn lleoliad cymdeithasol, cynnes a chyfforddus. Fel arweinydd mudiad sydd mor falch o’i diwylliant a’i threftadaeth Gymreig, rwyf wrth fy modd y byddwn yn cynnal Gŵyl Ffilm Cwm Llynfi y flwyddyn nesaf, ac edrychaf ymlaen at groesawu siaradwyr, dysgwyr a chefnogwyr Cymraeg i’r Bocs Oren.”
Ychwanegodd Hana Lewis, Rheolwr Strategol Canolfan Ffilm Cymru:
“Rydym yn falch iawn o gefnogi'r prosiect newydd pwysig hwn, a fydd yn dod â mwy o ddewis o ffilmiau a gweithgareddau diwylliannol i gynulleidfaoedd ar draws Cwm Llynfi. Mae sinemâu yn gynyddol wrth galon cymunedau Cymru, gan gynnig llawer o wasanaethau hanfodol sy'n cadw pobl mewn cysylltiad, felly mae'n bleser gweld yr adeilad poblogaidd hwn yn ailagor. Buom yn gweithio gyda Neuadd y Dref Maesteg flynyddoedd lawer yn ôl pan gafodd y rhaglen sinema ei threialu, felly mae gweld hon yn dod yn llawn, gyda gofod newydd hardd a rhaglen ffilm yn wych. Mae’n gyflawniad aruthrol i dîm Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Lles:
“Rydym wrth ein bodd bod ein partneriaid yn Awen wedi llwyddo i sicrhau’r cyllid ychwanegol hwn i ddod â mwy o ffilmiau annibynnol a rhyngwladol o’r DU i gynulleidfaoedd lleol.
“Bydd Gŵyl Ffilm Cwm Llynfi yn ychwanegiad cyffrous i galendr celfyddydol a diwylliannol 2025 ar gyfer Neuadd y Dref Maesteg sydd newydd ei hailagor.”