Rhwng dydd Iau 21st a dydd Mercher 27ed Ym mis Tachwedd, bydd ein haelodau llyfrgell yn profi peth aflonyddwch tymor byr i'n gwasanaethau, wrth i ni drosglwyddo i system Cymru gyfan newydd ar gyfer rheoli ein llyfrau a data cwsmeriaid.

Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn dal i allu benthyca a dychwelyd eitemau yn eich llyfrgell leol, fodd bynnag, ni fyddwch yn gallu dod yn aelod, chwilio'r catalog, newid manylion eich cyfrif na chadw llyfrau ar-lein.

Rydym yn disgwyl i’r gwasanaethau canlynol gael eu heffeithio hefyd:

  • Ein cyfrifiaduron cyhoeddus;
  • eAdnoddau (ni ddylai eitemau sydd wedi'u lawrlwytho eisoes gael eu heffeithio);
  • Libby; a
  • Ein catalog ar-lein a'ch cyfrif.

Unwaith y caiff ei rhoi ar waith, bydd y system rheoli llyfrgell newydd yn dod â manteision sylweddol i holl aelodau'r llyfrgell gan gynnwys y newyddion diweddaraf ynghylch pryd y bydd eich hoff awdur yn rhyddhau llyfr, neu pan fydd llyfrau ar eich pwnc dewisol yn cyrraedd mewn stoc.

Byddwn yn parhau i ddiogelu eich data drwy gydol y cyfnod pontio a thu hwnt. Siaradwch ag aelod o staff os ydych yn bryderus neu edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yma: https://www.awen-wales.com/wp-content/uploads/2023/08/Privacy-Notice-Combined.pdf.