Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2024 a rhaglen haf o weithgareddau Llyfrgelloedd Awen gyda digwyddiad llawn hwyl i’r teulu yng Nghaeau Trecelyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn 13ed Gorffennaf rhwng 12 a 3pm. Cefnogir y digwyddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd 'Hwyl yn y Parc' yn cynnwys offer gwynt, sesiynau symud a dawns, gemau anferth, amser stori a chrefftau, helfa drysor, a llawer mwy. Bydd Lee Jukes, DJ Breakfast Bridge FM, yn darlledu'n fyw o'r digwyddiad. Darperir yr holl weithgareddau yn rhad ac am ddim.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf, sydd wedi’i rhedeg gan yr Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus ers 1999, wedi’i hanelu at blant 4 – 11 oed. Mae’n cefnogi’r grŵp oedran hwn (er y gall plant iau a hŷn hefyd gofrestru) a’u teuluoedd trwy:

  • Paratoi plant i fynd yn ôl i’r ystafell ddosbarth yn yr hydref.
  • Cefnogi’r symudiad i grŵp blwyddyn newydd neu gyfnod allweddol.
  • Hybu hyder a hunan-barch plant trwy gefnogi darllen annibynnol.
  • Darparu mynediad am ddim i lyfrau a gweithgareddau hwyliog i'r teulu yn ystod yr haf.

Y gobaith yw y bydd thema eleni o 'Gwneuthurwyr Rhyfeddol', sydd wedi'i datblygu gyda'r elusen gelfyddydol flaenllaw Create, yn tanio dychymyg plant ac yn rhyddhau straeon a chreadigrwydd trwy rym darllen.

Yn dilyn y lansiad, bydd llyfrgelloedd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau gan gynnwys gweithdai drymio Affricanaidd, gweithdai Craft Junction, gweithdai Symud a Dawns Zack Franks a gweithdai Carl John 'The Magic Man'.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Mae Sialens Ddarllen yr Haf flynyddol ar eu hennill! Mae teuluoedd yn elwa o ddigwyddiadau a gweithgareddau rhad ac am ddim dros gyfnod drud y gwyliau ysgol, mae plant yn gyffrous i ddarllen llyfrau yn gyfnewid am wobrau ac mae ein cydweithwyr wrth eu bodd yn gweld llawer o wynebau hapus yn mwynhau treulio amser yn eu llyfrgelloedd.

“Mae yna ochr fwy difrifol i Sialens Ddarllen yr Haf hefyd. Ni all 1 o bob 4 plentyn ddarllen yn dda erbyn eu bod yn 11 oed, sy’n cyfyngu’n aruthrol ar eu dewisiadau bywyd a’u sgiliau. Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu o fewn ein llyfrgelloedd a’n cymunedau lleol i ddatblygu a chadw llythrennedd plant.”

Dywedodd Claire Marchant, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

“Mae darllen nid yn unig yn sgil sylfaenol – mae hefyd yn ysbrydoli ac yn ysgogi ein dychymyg. Ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf eleni, rydym am danio’r hwyl i bobl ifanc wrth fod yn greadigol ac archwilio syniadau llawn dychymyg trwy ddarllen a dysgu! Gobeithio y bydd y profiadau hyn yn trosglwyddo i fywydau beunyddiol ein pobl ifanc. Gobeithiwn y bydd holl blant y fwrdeistref sirol yn mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau.”

Cefnogir Sialens Ddarllen yr Haf yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.