Parc Gwledig Bryngarw wedi cyrraedd y safon uchel sydd ei angen i chwifio'r Faner Werdd am flwyddyn arall!
Rhoddir y wobr i barciau a mannau gwyrdd sy'n hygyrch i'r cyhoedd sydd wedi cyrraedd safonau rhyngwladol ym meysydd: lle croesawgar; iach, diogel a saff; wedi'i gynnal a'i gadw'n dda ac yn lân; rheolaeth amgylcheddol; bioamrywiaeth, tirwedd a threftadaeth; ymglymiad cymunedol; marchnata a chyfathrebu; rheoli.
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:
“Rydym wrth ein bodd bod Parc Gwledig Bryngarw wedi cadw ei Faner Werdd am yr wythfed flwyddyn yn olynol a’i Achrediad Treftadaeth Werdd am y pumed tro. Gyda'n partneriaid yn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Parc Rhanbarthol y Cymoedd, rydym wedi buddsoddi dros £1 miliwn yn y Parc, i wella profiad ymwelwyr yn sylweddol, cynyddu hygyrchedd a chynaliadwyedd a chynnig man gwyrdd o ansawdd uchel ar gyfer lles cymdeithasol, corfforol a meddyliol.
“Nid ydym yn hunanfodlon, fodd bynnag, a byddwn yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd o wneud gwelliannau i’r Parc sy’n cael eu mwynhau gan dros 220,000 o bobl y flwyddyn. Hoffem ddiolch i'n cydweithwyr a'n gwirfoddolwyr am eu hymdrechion i gynnal y safonau uchel a fynnir gan y ddwy wobr hyn; diolch i’w gwaith caled a’u hymroddiad ein bod wedi gallu cadw’r cyflawniadau hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn.”
Yng Nghymru, mae'r cynllun gwobrau yn cael ei redeg gan Cadwch Gymru'n Daclus. Ychwanegodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd ar gyfer Cadwch Gymru’n Daclus:
“Ni fu mynediad am ddim i fannau gwyrdd diogel o ansawdd uchel erioed mor bwysig. Mae ein safleoedd arobryn yn chwarae rhan hanfodol yn lles meddyliol a chorfforol pobl, gan ddarparu hafan i gymunedau ddod at ei gilydd, ymlacio a mwynhau byd natur. Mae’r newyddion bod 280 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi ennill Gwobrau’r Faner Werdd yn dyst i waith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. Rydym yn falch iawn o allu dathlu eu llwyddiant ar lwyfan y byd.”