Rydym yn edrych ymlaen at lansio prosiect newydd ar gyfer cartrefi gofal sy’n defnyddio technoleg fodern i frwydro yn erbyn unigedd o fewn gofodau sydd bellach yn cael eu hadnabod fel “ynysoedd yr hen”.
Mae Inside Outside yn defnyddio profiadau VR i gynorthwyo hel atgofion trigolion trwy adeiladu llyfrgell o fideos 360 gradd o lefydd cyfarwydd y byddai pobl wrth eu bodd yn ymweld â nhw eto. Gyda chymorth clustffonau arbennig mae trigolion yn cael eu cludo i bob lleoliad diolch i sgiliau technolegol Colour Black Productions. Mae'r dechnoleg hefyd yn gweithio ar gyfer recordio a rhannu digwyddiadau a pherfformiadau.
Yn dilyn prosiect peilot llwyddiannus y llynedd, mae Awen wedi gweithio gyda staff mewn tri chartref gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ymgynghori â phreswylwyr ar y mathau o ffilmiau yr hoffent gael eu gwneud, gan gwmpasu hoff leoliadau ac atgofion. Wrth i’r prosiect adeiladu, ein nod yw creu catalog helaeth o opsiynau, y gallai cartrefi gofal lluosog gael mynediad iddynt wrth i ni ariannu clustffonau ychwanegol a chyflwyno’r prosiect ar draws yr holl feysydd y mae Awen yn gweithio ynddynt.
Yng nghartref gofal Bryn Y Cae ym Mracla, buom yn gweithio gyda phreswylwyr gan gynnwys Bill Hughes, 85, o Ben-y-bont ar Ogwr. Mae Bill yn ŵr gweddw ac yn defnyddio cadair olwyn trydan ac mae wedi bod yn byw yno ers sawl blwyddyn. Roedd yn agored iawn i’r profiad VR a gwnaeth fideos o Borthcawl gryn argraff arno, lle nad oedd wedi gallu ymweld ers blynyddoedd lawer.
Dywedodd Bill: “Roedd yn brofiad gwych defnyddio'r clustffonau VR; roedd y cyfan mor glir. Fe allech chi weld popeth yn gyfredol, fel y mae nawr, mae fel eich bod chi yno ar y prom”. Ychwanegodd “Byddai’n braf ei ddefnyddio pan fyddwch chi’n eistedd yn eich ystafell ar eich pen eich hun yn ymlacio”.
Bu Bill hefyd yn rhannu straeon am chwarae gyda Band Parc & Dâr ar y bas dwbl ym Mhafiliwn y Grand ym Mhorthcawl. Dywedodd y byddai'n gwerthfawrogi gweld lleoedd fel y Bont-faen lle'r oedd yn arfer mynd i siopa gyda'i wraig a fu farw rai blynyddoedd yn ôl. Dywedodd fod yr holl brofiad wedi rhoi “teimlad bwrlwm hapus” iddo fel petai wir wedi bod am ddiwrnod allan arbennig.
Roedd staff y cartref wedi’u plesio i’r un graddau, gan nodi faint roedd y profiad wedi effeithio’n gadarnhaol ar hwyliau’r preswylwyr, a sut y gellid defnyddio’r adnodd i hybu lles ar ddiwrnodau anodd ar ôl sesiwn llawn gwen a sgwrs. Mae atgofion Porthcawl hyd yn oed wedi arwain at y cartref yn trefnu taith arbennig i'r rhai sy'n gallu gadael y cartref i ymweld â'r dref glan môr unwaith eto. Bydd y grŵp yn ymweld â Phafiliwn y Grand fel eu canolfan ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael hufen iâ cyn iddynt fynd adref.
Mae Inside Outside yn brosiect hirdymor ar gyfer Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, a ariannwyd i ddechrau gan Gronfa Dementia yr ICF.