Mae apêl codi arian, a lansiwyd gan yr elusen gofrestredig Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen i adfer paentiad ‘colledig hir’ gan yr uchel ei barch Christopher Williams i’w hen ogoniant, wedi’i chyflawni diolch i gymuned Maesteg a’i Chyngor Tref.
Mae rhoddion hael gan unigolion lleol a Chyngor Tref Maesteg yn golygu y gall cadwraethwyr celf proffesiynol bellach atgyweirio ac ail-fframio’r paentiad, yn barod i’w arddangos a’i ddehongli yn Neuadd y Dref Maesteg ar ei newydd wedd pan fydd yn ailagor.
Credir mai'r paentiad, sy'n darlunio Gwaith Haearn Llynfi, yw unig dirwedd hysbys Williams o'i dref enedigol annwyl. Fe'i cadwyd yn y storfa gan berthynas i'r arlunydd, a'i olrhain gan or-ŵyr Williams.
Ganed Williams ym Maesteg ym mis Ionawr 1873, a magwyd ef yn siop groser y teulu ar Commercial Street nes ei fod yn 13 oed, pan anfonwyd ef i ysgol breswyl yng Nghaerdydd. Yn ddiweddarach astudiodd yng Ngholeg Celf Brenhinol Llundain a chaiff y clod am nifer o weithiau nodedig, gan gynnwys darluniau o gymeriadau o'r Mabinogion - chwedlau Cymreig hynafol am fythau a chwedlau - yn ogystal â phortreadau o'r cyn Brif Weinidog David Lloyd George, a ddisgrifiodd Williams fel ' un o'r artistiaid mwyaf dawnus y mae Cymru wedi'i gynhyrchu'.
Yn sosialydd ac yn aelod o Gymdeithas y Fabian, roedd Williams wedi ymrwymo i hybu diddordeb yn y paentio a cherflunio. Rhoddodd ef a’i wraig luniau i amgueddfeydd, awdurdodau lleol a phrifysgolion ledled Cymru, er budd y cyhoedd. Roedd y rhain yn cynnwys chwe phaentiad sydd wedi cael eu harddangos yn Neuadd y Dref Maesteg ers 1934.
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy’n rheoli Neuadd y Dref ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
“Rydym yn ddiolchgar i deulu Christopher Williams am ganiatáu i ni ddod â’r paentiad hwn ‘adref i Faesteg’, lle bydd yn cael ei weld a’i werthfawrogi gan unrhyw un sy’n ymweld â Neuadd y Dref. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd – gan gynnwys Cyngor Tref Maesteg – i’r gronfa adfer paentiadau. Bydd eu haelioni yn sicrhau bod y paentiad hwn yn cael ei warchod a’i gadw am flynyddoedd lawer i ddod.”
Dywedodd y Cynghorydd Andrew James, Maer Maesteg:
“Roedd yn bleser i Gyngor Tref Maesteg wneud cyfraniad i alluogi adfer paentiad Gwaith Haearn Maesteg. Mae’n bwysig i gwm Llynfi ddwyn i gof ein treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yn yr ardal. Mae'r darlun hwn gan ein Christopher Williams ein hunain, yn chwarae rhan fawr o hanes y cwm. Bydd y paentiad yn cael ei arddangos yn falch yn y dyffryn er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Adfywio:
“Mae'n wych clywed bod y darn hwn o gelfyddyd hir-goll gan un o artistiaid gorau Cymru wedi'i ailddarganfod a bydd yn cymryd lle amlwg yn Neuadd y Dref Maesteg ar ei newydd wedd.
“Rydym yn edrych ymlaen at allu agor y drysau eto i’r cyhoedd fel y gallant fwynhau pennod nesaf yr adeilad hanesyddol hwn sydd wedi’i ddylunio gydag amnaid teilwng i’r gorffennol a’r dyfodol.”