Mae Llywodraeth Cymru a Choed Cadw, Coed Cadw yng Nghymru, yn cynnig miloedd o goed i gartrefi yng Nghymru, yn rhad ac am ddim.
Bydd Parc Gwledig Bryngarw yn fan casglu ar gyfer menter ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig’, sy’n rhedeg o ddydd Llun 20 Chwefror tan ddydd Gwener 31 Mawrth 2023.
Bydd y coed yn cael eu dosbarthu gan y Gwarchodwyr Parc Rhanbarthol y Cymoedd bob dydd Mawrth rhwng 2pm a 2.30pm.
Os na allwch ymweld, mae ffyrdd eraill o gymryd rhan yn y fenter sydd â'r nod o helpu i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd a chyfrannu at Coedwig Genedlaethol Cymru.
- Mae'r Coed Cadw yn gallu plannu coeden ar eich rhan, yn rhad ac am ddim. Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw llenwi ffurflen ar-lein a byddant yn gofalu am y gweddill.
- Gallwch bostio coeden atoch. Mae 40,000 o goed post ar gael ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu a gallwch wneud cais am un gan ddefnyddio ffurflen ar-lein drwy Coed Cadw.