Yn Awen, rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol, teg ac amrywiol a chynnig cynnyrch a gwasanaethau hygyrch i bawb. Drwy ymrwymo i Addewid Cydraddoldeb Busnes Cymru, byddwn yn cymryd camau rhagweithiol a chadarnhaol i helpu i wella ein harferion cydraddoldeb ar draws y sefydliad cyfan gan gynnwys:
- Cwblhau ein cynllun gweithredu Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) i sicrhau bod EDI yn rhan annatod o bopeth a wnawn a bod ein gwasanaethau yn hygyrch i bawb.
- Adolygu ein polisi EDI a chyfathrebu â'r holl staff.
- Cofrestru fel Cyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol.
- Adolygu ein prosesau caffael i ymgorffori arfer gorau wrth asesu polisïau EDI cyflenwyr.
- Cyflwyno a monitro cwblhau cyfres o ddysgu digidol EDI.
- Pob aelod o staff yn mynychu hyfforddiant Safonau Gweithle.
#EqualityPledge #AddewidC cydraddoldeb