Mae Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl wedi dathlu ei garreg filltir yn 90ed pen-blwydd gyda the parti prynhawn, lle cafodd gwesteion eu diddanu gan uwch aelodau o Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn perfformio detholiad o hoff ganeuon sioe o naw degawd o theatr gerdd.
I nodi'r achlysur arbennig, mae arddangosfa wal newydd sy'n dogfennu rhai o'r eiliadau mwyaf cofiadwy o hanes Pafiliwn y Grand ers ei agor ym mis Awst 1932 hyd yma, wedi'i ddadorchuddio yng nghyntedd y theatr.
Drwy gydol yr wythnos, bu’r ymarferydd theatr Jenny Lockyer a thîm o wirfoddolwyr yn cyfarfod ag ymwelwyr ar lan y môr ac yn y caffi i gasglu atgofion personol pobl o Bafiliwn y Grand. Mae'r rhain hefyd wedi'u harddangos yn y theatr.
Mae’r atgofion yn dangos sut mae Pafiliwn y Grand wedi cadarnhau ei le yng nghanol y gymuned dros y 90 mlynedd diwethaf, a sut mae’r theatr wedi’i blethu ym mywydau pobl o gwrdd â darpar briod mewn dawnsiau, i berfformio ar lwyfan a gweld rhai enwau enwog.
Mae un yn darllen: “Mae gan Bafiliwn y Grand lawer o atgofion arbennig i’n teulu. Roedd mam yn arfer dawnsio yma yn ei harddegau yn y 1950au, roedd hi a fy nhad yn gwylio’r holl wyrion yn perfformio ar y llwyfan gyda BYT a sioeau ysgol, a blynyddoedd ymddeol hapus yn cael coffi gyda ffrindiau.”
Mae un arall yn cofio sut y bu i Rob Brydon, a oedd yn perfformio'n rheolaidd ym Mhafiliwn y Grand ochr yn ochr â'i gyd-actor Ruth Jones, gynghori myfyrwyr a oedd yn mynychu cyflwyniad ysgol pe byddent yn gwrando ar eu hathrawon, y gallent hwythau hefyd fod yn llais Toilet Duck!
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen gofrestredig sy’n rheoli Pafiliwn y Grand ar ran Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
“Ers 90 mlynedd, mae Pafiliwn y Grand wedi bod wrth galon y celfyddydau a diwylliant ym Mhorthcawl ac ar draws bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac rydym yn hynod falch bod Awen bellach yn chwarae rhan yn ei hanes gwych. Mae gan gymaint o bobl atgofion arbennig o’r lleoliad, o bythefnos y glowyr, cwrdd â’u darpar ŵr neu wraig yn y ddawns wythnosol, cymryd rhan yn y cynyrchiadau ysgol gyda rhai enwau enwog erbyn hyn, i draddodiadau teuluol o fynychu’r pantomeim blynyddol neu ŵyl Elvis!
“Mae ein dathliadau pen-blwydd wedi rhoi cyfle i Awen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddiolch i’r cymunedau lleol sydd wedi bod mor ffyddlon a chefnogol i’r lleoliad, y perfformwyr a’r criwiau cefn llwyfan sydd wedi dod â chymaint o ddigwyddiadau gwych i’r llwyfan dros y blynyddoedd, a y staff – y gorffennol a’r presennol – sy’n gweithio mor galed i wneud Pafiliwn y Grand yn lle mor hyfryd i bawb ei fwynhau.
“Mae’r pen-blwydd carreg filltir hwn wedi bod yn gyfle i fyfyrio ar y gorffennol, ond hefyd edrych ymlaen at ddyfodol hyd yn oed yn fwy cyffrous i Bafiliwn y Grand, wrth i ni aros am ganlyniad y cais i Gronfa Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU, a fydd yn helpu i ddiogelu a gwarchod treftadaeth ddiwylliannol y theatr a nodweddion y cyfnod, tra hefyd yn cwrdd ag anghenion a dyheadau’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Phorthcawl gyda chyfleusterau mwy hygyrch a chynhwysol.”
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: “Roeddwn yn falch iawn o gael fy ngwahodd i’r digwyddiad dathlu i nodi 90 mlynedd ers sefydlu Pafiliwn y Grand, Porthcawl. Mae cymaint wedi newid ers 1932, pan godwyd yr adeilad rhestredig Gradd II hwn, ond yn amlwg yr hyn sydd heb newid, yw bod y pafiliwn wedi parhau wrth galon y gymuned hon, gan gyfoethogi bywyd diwylliannol y dref yn barhaus.
“Dros y degawdau mae cynulleidfaoedd lleol wedi bod yn ffodus i weld rhai o dalentau mwyaf y wlad yn dod i enwogrwydd a dod yn sêr rhyngwladol ac enwau cyfarwydd, gan gynnwys Catherine Zeta-Jones, Syr Tom Jones, Rob Brydon, Ruth Jones, ac Eddie Izzard i enwi ond ychydig. Dysgon nhw eu crefft a diddanu llawer o gynulleidfaoedd ar hyd y daith o'r union lwyfan hwn.
“Rydym yn falch bod Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysgol Gyfun Porthcawl yn parhau i ddatblygu a meithrin talent ifanc yn y fwrdeistref sirol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o artistiaid.
“Yn union fel rydyn ni’n buddsoddi yn ein pobl, rydyn ni hefyd yn awyddus i fuddsoddi yn yr adeilad eiconig, annwyl hwn. Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gyda’n partneriaid yn Awen i ddatblygu gweledigaeth a chynlluniau ar gyfer buddsoddiad mawr o £13m ym Mhafiliwn y Grand, a fydd nid yn unig yn diogelu, ond yn ymestyn ac yn adnewyddu’r em yn y goron ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”