Er ei fod yn ddifrifol anabl, mae Gordon wedi creu casgliad trawiadol o bortreadau pensil o rai o enwogion Cymru gan gynnwys sêr y byd chwaraeon, actorion, cerddorion a gwleidyddion, yn ogystal â phobl leol ac aelodau o Sied Dynion Pontycymer.
Mae detholiad o'r gwaith celf hwn wedi'i gyhoeddi yn 'Made with Coal' fel rhan o'r prosiect Voices from Underground sy'n cael ei redeg gan elusen gofrestredig Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Nod y prosiect, a fydd yn cynnwys pedwar llyfr i gyd, yw rhannu rhai o hanesion bywyd ysbrydoledig y bobl sy'n ymwneud â diwydiant glo De Cymru, a'r heriau personol y maent wedi'u hwynebu ac wedi'u goresgyn gyda gwydnwch a phenderfyniad.
Cafodd ‘Made with Coal’ ei goladu gan yr awdur a’r ffotograffydd Phil Cope, a sefydlodd ac a arweiniodd sefydliad celfyddydau cymunedol Cwm a Bro am 16 mlynedd (a elwir bellach yn Tanio) ac a fu’n ymwneud ag adnewyddu Neuadd y Gweithwyr Blaengarw yng nghanol y 1980au.
Roedd Gordon, 83 oed, a drodd at bortreadau pensil yn ddiweddarach mewn bywyd i helpu ei feddwl i ddileu'r boen a achoswyd gan ei anafiadau o ddamwain ddiwydiannol yn 2000, yn gallu cyflwyno copi o'i lyfr i Max Boyce yn ei sioe yn y Pafiliwn y Grand, Porthcawl ym mis Mawrth.
Dywedodd Gordon: “Gofynnodd Max i mi sut rydw i'n teimlo, nawr bod y llyfr wedi'i argraffu o'r diwedd ac allan yna. Ymatebais i Max fy mod wrth fy modd ac rydw i wir wedi gwirioni ag ef.”
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:
“Mae Andre van Wyk, ein Datblygwr Creadigol a Llesiant yn Awen wedi adnabod Gordon Farmer ers blynyddoedd lawer trwy ei waith ymgysylltu cymunedol. Mae gwaith Gordon yn cynnwys llawer o gymeriadau lleol a theimlwn fod cefnogi’r prosiect Voices from Underground – Made with Coal yn llwyfan perffaith i sicrhau bod gwaith Gordon, yn ogystal â’i dreftadaeth lofaol yn cael eu cydnabod a’u dathlu.”