Roedd Awen yn un o 114 o sefydliadau o bob rhan o’r DU i gymryd rhan ym mhumed Mynegai Llesiant Gweithle blynyddol Mind, a chafodd ei chydnabod gyda Gwobr Arian.
Mae’r Mynegai Llesiant yn y Gweithle yn feincnod o bolisi ac arfer gorau, sy’n dathlu’r gwaith da y mae cyflogwyr yn ei wneud i flaenoriaethu iechyd meddwl gwell yn eu gweithle.
Mae'r Mynegai hefyd yn darparu argymhellion wedi'u teilwra sy'n galluogi sefydliadau i wella'r cymorth y maent eisoes yn ei gynnig i weithwyr.
Rhoddir y Wobr Arian i gyflogwyr “sydd wedi gwneud llwyddiannau amlwg o ran hybu iechyd meddwl staff, gan ddangos cynnydd ac effaith dros amser”.
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:
“Yn Awen, rydym wedi ymrwymo i gefnogi lles corfforol a meddyliol ein staff. Mae ennill Gwobr Arian yn ystod ein blwyddyn gyntaf o gymryd rhan ym Mynegai Lles yn y Gweithle Mind yn dyst i’n hymdrechion rhagweithiol i chwalu rhwystrau ac annog staff i siarad am eu heriau iechyd meddwl a llesiant mewn amgylchedd diogel â chymorth.
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn arbennig o anodd ond rydym wedi achub ar y cyfle i hyfforddi staff fel Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, wedi mabwysiadu dull gweithio hyblyg i gefnogi staff i weithio mewn ffordd sy’n addas i’w hamgylchiadau yn ystod y pandemig, ac rydym wedi annog cydweithwyr i rannu eu straeon personol trwy ein hymgyrch 'Dyma Fi' ar Facebook Workplace.
“Dros y flwyddyn i ddod, byddwn yn parhau i hyrwyddo lles yn y gweithle, sicrhau bod ein diwylliant a’n ffyrdd o weithio yn cefnogi iechyd meddwl cadarnhaol, a darparu’r offer a’r arweiniad cywir i’n staff fel eu bod yn cynnal eu llesiant eu hunain ac yn helpu eu cydweithwyr i gwneud yr un peth. Edrychwn ymlaen at fynd am Aur y tro nesaf!”