Rwyf wrth fy modd ein bod, dros yr ychydig wythnosau diwethaf, gyda llacio’r cyfyngiadau, wedi gallu ailagor rhai o’n gwasanaethau a chroesawu ymwelwyr a defnyddwyr yn ôl. Gan weithio gyda’n partneriaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn parhau i gymryd camau cadarnhaol, ond gofalus, i ailagor – gan ystyried y canllawiau perthnasol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru drwy’r amser. Hyd yn hyn, mae Parc Bryngarw bellach ar agor yn llawn, pedair llyfrgell yn cynnig gwasanaethau llyfrau a chasglu, a gweithgareddau ac adnoddau ar-lein i gefnogi darllen, llythrennedd a dysgu fel teulu.
Drwy gydol mis Awst rydym yn paratoi i groesawu hyfforddeion yn ôl i Wood-B a B-leaf. Mae'n argoeli i fod yn ddychweliad emosiynol ac ni allaf aros i'w gweld yn ôl. Byddwn hefyd yn gweithio i agor mwy o wasanaethau llyfrgell, gan gynnwys mynediad i gyfrifiaduron y gwn sydd mor bwysig i lawer o'n defnyddwyr.
Er bod llawer i fod yn gadarnhaol yn ei gylch, erys ansicrwydd aruthrol ynghylch pryd a sut y bydd y sector celfyddydau a theatr yn gallu dychwelyd i fusnes. Hyd yn oed pan ganiateir iddynt ailagor yn swyddogol, gall y disgwyliadau ar bellhau cymdeithasol a mesurau eraill ei gwneud yn aneconomaidd i wneud hynny. Roedd yn galonogol clywed bod cyllid yn cael ei ddarparu o’r diwedd i’r sector ac fel elusen gofrestredig annibynnol byddwn yn ymgysylltu â’r broses honno, yn yr un ffordd ag sydd gennym gyda chyfleoedd eraill drwy gydol yr amser hwn.
Ond, nid mater tymor byr yw'r effaith ar theatrau a lleoliadau. Nid yw mor syml â throi'r tap yn ôl ymlaen ac rydyn ni rywsut yn dod yn ôl i 'normal'. I Awen, Pafiliwn y Grand, Porthcawl oedd y cyntaf i gau ei ddrysau ym mis Mawrth ac mae’n debyg mai hwn fydd yr olaf i gyrraedd yn llawn. Yn anffodus, mae hyn wedi golygu gwneud rhai penderfyniadau anodd, rhai sydd â chanlyniadau i rai o’n cydweithwyr a fydd, ar ôl blynyddoedd o wasanaeth, yn ein gadael ac a fydd yn cael eu colli. Mae'r penderfyniadau hyn wedi bod yn angenrheidiol i ddiogelu iechyd ariannol da'r elusen nid yn unig am y tri i bedwar mis nesaf ond am y tair i bedair blynedd nesaf wrth i'r adferiad o'r argyfwng hwn fynd rhagddo. Bydd Pafiliwn y Grand, fel Neuadd y Gweithwyr Blaengarw, yn ail-agor ond mae sut a phryd yn parhau i fod yn aneglur iawn.
Mae gan Awen ddyletswydd i fuddsoddi yn ei buddiolwyr – y rhai sy’n cael budd o’r hyn a wnawn fel elusen. Felly, drwy ddiogelu ein hiechyd ariannol byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar fuddsoddi yn ein lleoliadau, cyfleusterau a phrosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid, cynulleidfaoedd, ymwelwyr, hyfforddeion a defnyddwyr. Mae ailddatblygiad Neuadd y Dref Maesteg ar y gweill, mae buddsoddiad Parc Rhanbarthol y Cymoedd o dros £500, 000 yn digwydd ym Mharc Bryngarw ac ym Mhafiliwn y Grand rydym yn ystyried newidiadau a fydd yn helpu'r lleoliad i ailagor, adnewyddu a pharatoi i fynd.
Drwy gydol y cyfnod heriol hwn, mae cefnogaeth y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt wedi bod yn ysbrydoledig. O Flaengarw i Borthcawl mae cefnogaeth pobl leol yn rhoi achos gwych i ni fod yn obeithiol. Ni allwn aros i'ch croesawu'n ôl, hyd yn oed os gallai gymryd ychydig mwy o amser.
Richard Hughes
Prif Weithredwr