Roedd y clustffonau ar gael yn llyfrgelloedd Pen-y-bont ar Ogwr o'r wythnos yn dechrau 17eg Mehefin, gyda rhai dyddiadau ar ôl, gan roi cyfle i bobl Pen-y-bont ar Ogwr brofi rhith-realiti gyda chefnogaeth staff y llyfrgell.
Mae realiti rhithwir yn ffordd gyffrous o brofi stori. Fodd bynnag, mae'r clustffonau a ddefnyddir i ddarparu'r profiadau hyn fel arfer yn ddrud, gan gyfyngu ar faint o bobl sy'n eu cael gartref. Drwy eu rhoi mewn llyfrgelloedd lleol ar draws y DU, mae'r BBC yn gobeithio rhoi cyfle i bawb roi cynnig arni.
Rheolir Llyfrgelloedd Awen gan elusen gofrestredig Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy’n darparu cyfleoedd diwylliannol i gymunedau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dydd Gwener Mehefin 21ain
Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr 2pm-5pm
Llyfrgell y Pîl 5pm-7pm
Llyfrgell Porthcawl 10:30am-12pm
Llyfrgell Pencoed 3pm-6pm
Llyfrgell Abercynffig 2pm-4pm
Llyfrgell Maesteg 2pm-4pm
Llyfrgell Y Llynfi 10yb-12yp
Dydd Sadwrn Mehefin 22ain
Llyfrgell y Pîl 10am-12pm
Llyfrgell Pencoed 10:30am-11:30am a 2:30pm-4:30pm
I gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau hyn a’n llyfrgelloedd ewch i, www.awen-libraries.com. Ceir manylion cyswllt pob cangen ar y wefan.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Donnan ar 01656 815998 neu e-bostiwch megan.leahy-donnan@awen-wales.com.