Yr elusen gofrestredig, sy’n rhedeg 12 cangen, llyfrgell deithiol a gwasanaeth caeth i’r tŷ, ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fydd y gyntaf yng Nghymru i ddileu’r dirwyon, gan ddilyn yn ôl troed rhai llyfrgelloedd yn Lloegr a Gweriniaeth Iwerddon .
Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod ailagoriad swyddogol Llyfrgell y Pîl ddydd Llun 11ed Mis Mawrth yn dilyn gwaith ailddatblygu ac adnewyddu gwerth £100,000, a fynychwyd gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Mae'r adnewyddiad, a ariannwyd ar y cyd gan mae Grant Cyfalaf Trawsnewid gan Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, wedi gweld Llyfrgell y Pîl yn dod yn ofod mwy, ysgafnach, mwy hyblyg a swyddogaethol, ar gyfer y gymuned gyfan.
Credir y bydd dileu dirwyon yn annog mwy o bobl i ddefnyddio Llyfrgelloedd Awen, gan ganiatáu i’r rhai a allai deimlo embaras am anghofio dychwelyd eu llyfrau, neu fethu â thalu eu dirwyon, ailgynnau eu perthynas â darllen a dysgu.
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:
“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu llyfrgelloedd cyhoeddus, sy’n gynnes, yn groesawgar ac yn hygyrch i bawb. Rydym am gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac annog mwy o deuluoedd i ddod i mewn i’n llyfrgelloedd a mwynhau’r holl wasanaethau sydd ganddynt i’w cynnig, drwy chwalu rhwystrau gwirioneddol a chanfyddedig o fewn ein canghennau.
“Gan ein bod wedi cael gwared ar lawer o’r rhwystrau ffisegol i Lyfrgell y Pîl, gan gynnwys y ddesg flaen fawreddog fawr, mae’n addas inni wneud y cyhoeddiad am ein polisi dirwyon newydd yn ei hailagoriad swyddogol.
“Wrth gwrs, nid yw dirwy yn golygu dim cyfrifoldeb a bydd yr holl reolau eraill yn ymwneud â benthyca llyfrau yn dal yn berthnasol! Byddai’n well gennym i’n haelodau gefnogi eu llyfrgell leol mewn ffyrdd eraill, trwy ymweld, cynnig rhoddion neu wirfoddoli.”
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
“Gan fod ein partneriaeth ag Awen yn seiliedig ar gyflawni canlyniadau llesiant, cynhwysiant a chydraddoldeb, rydym yn llwyr gefnogi eu polisi blaengar i ddileu dirwyon hwyr sydd, trwy wneud hynny, yn sicrhau bod gan bawb yn ein cymunedau fynediad am ddim i ddarllen a dysgu fel adnodd gydol oes. .”
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:
“Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi'r prosiect hwn sy'n darparu cyfleusterau llyfrgell modern a hyblyg i'r gymuned leol. Trwy gyd-leoli'r llyfrgell gyda'r Ganolfan Fywyd, mae'r gymuned leol yn gallu cael mynediad at wasanaethau gwych ac arloesol i gyd mewn un lle.
“Mae Cronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru yn helpu llyfrgelloedd cyhoeddus, amgueddfeydd lleol a gwasanaethau archifau i drawsnewid eu harlwy diwylliannol i’r cyhoedd. Ledled Cymru rydym wedi buddsoddi mwy nag un ar bymtheg miliwn o bunnoedd mewn dros 115 o brosiectau ochr yn ochr â buddsoddiad sylweddol gan bartneriaid eraill. Mae hyn wedi adfywio llawer o wasanaethau llyfrgell yng Nghymru ac wedi creu cyfleoedd ar gyfer partneriaethau eraill. Rwy’n gobeithio y bydd y llyfrgell hon ar ei newydd wedd yn annog ac yn creu cyfleoedd i bobl sy’n newydd i’r llyfrgell neu sydd heb fod yno ers amser maith, i ymweld a chael mynediad at y gwasanaethau sydd ar gael.”
Mae Llyfrgelloedd Awen ar flaen y gad o ran cyflwyno syniadau newydd ac arloesol i annog pobl i ddod i’w canghennau. Dechreuodd trydydd tymor o 'Live & Loud', sy'n gweld cerddoriaeth fyw, drama, pypedwaith a theatr plant rhwng y silffoedd llyfrau, ym mis Chwefror, ac mae'n helpu i newid canfyddiadau o lyfrgelloedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd.