Mae llyfrgelloedd Awen yn galw ar blant i gofrestru i ddarllen chwe llyfr yr haf yma fel rhan o Asiantau Anifeiliaid, Her Ddarllen yr Haf 2017.
Mae Her Ddarllen yr Haf yn gofyn i blant 4-11 oed fenthyg a darllen unrhyw chwe llyfr yn ystod gwyliau’r haf, amser pan fydd sgiliau llythrennedd plant yn lleihau yn draddodiadol.
Y thema eleni yw Asiantau Anifeiliaid, wedi’i seilio ar asiantaeth dditectif lle mae’r staff yn cynnwys pob math o anifeiliaid clyfar – blewog, cennog a llithrig – sydd eisiau datrys achos yn y llyfrgell ag ychydig o help gan eu ffrindiau.
Mae Tony Ross, y darlunydd mwyaf llwyddiannus ar gyfer plant yn y DU creawdwr llyfrau’r Little Princess, darlunydd y gyfres Horrid Henry gan Francesca Simon, ac o lyfrau gan David Walliams a Claire Balding – wedi creu’r gwaith celf unigryw eleni.
I gymryd rhan yn Asiantau Anifeiliaid, y cyfan mae angen i blant ei wneud yw mynd i’w llyfrgell leol ble byddan nhw’n cael ffolder gasglwr i gadw cofnod o’u taith ddarllen. Wrth i blant ddarllen o leiaf chwe llyfr dros yr haf, maen nhw’n casglu sticeri a fydd yn eu helpu i gracio’r cliwiau a helpu’r Asiantau Anifeiliaid i ddarganfod beth sydd wedi bod yn digwydd mewn gwirionedd y tu ôl i’r llenni!
Bydd Asiantau Anifeiliaid yn lansio mewn llyfrgelloedd ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda digwyddiad ar Feysydd Pontnewydd o 1-3pm ar ddydd Sadwrn 22ain Gorffennaf, a bydd yn rhedeg tan ddydd Sadwrn 9fed Medi. Wedi’i drefnu mewn partneriaeth â Phobl Ifanc Weithgar Pen-y-bont ar Ogwr, bydd y lansiad yn cynnwys ymgais i dorri record. Gofynnir i blant ddod â llyfr gyda nhw nad ydyn nhw ei eisiau bellach er mwyn helpu i greu tŵr llyfrau a fydd yn ganolbwynt yn y digwyddiad. Unwaith bod y tŵr wedi’i gwblhau, caiff y llyfrau eu rhoi i elusen leol iddyn nhw sefydlu llyfrgell iau.
Bydd y prynhawn yn llawn gweithgareddau i’r holl deulu ei fwynhau, gan gynnwys anerchiad difyr gan y bardd ac diddanwr plant Mike Church, heriau chwaraeon, adrodd straeon, gwneud masgiau, sgiliau syrcas, gweithdai tai chi a drama. Mae mynediad a’r holl weithgareddau am ddim. Bydd plant sy’n cofrestru am Her Ddarllen yr Haf yn derbyn taleb i logi DVD am ddim gan lyfrgelloedd Awen ar gyfer hyd gwyliau haf yr ysgol.
Meddai Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen sy’n rhedeg y gwasanaeth llyfrgell yn sir Pen-y-bont ar Ogwr:
“Mae Her Ddarllen yr Haf yn parhau i fod yn un o’r rhaglenni mwyaf llwyddiannus a gynigir gan lyfrgelloedd cyhoeddus. Erbyn hyn mae llyfrgelloedd Awen yn brysurach ym misoedd yr haf nag ar unrhyw amser arall yn y flwyddyn ac yn 2016 fe wnaeth y nifer uchaf erioed o blant ymuno â’r her ar thema Roald Dahl ledled ardal Pen-y-bont ar Ogwr – ac o’r mwy na 2,800 a gofrestrodd, fe wnaeth dros 70% gwblhau’r her. Mae ein llyfrgelloedd wedi cynllunio rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gysylltir â’r Asiantau Anifeiliaid a byddwn i’n annog rhieni, gofalwyr a theidiau a neiniau i ymweld â thudalen Facebook eu llyfrgell leol i gael rhagor o wybodaeth.”
Ychwanegodd Sue Wilkinson, CEO, Yr Asiantaeth Ddarllen:
“Yn Yr Asiantaeth Ddarllen, rydyn ni’n credu bod popeth yn newid pan ydyn ni’n darllen ac fe wyddom o’n hymchwil faint o hwyl mae teuluoedd a phlant yn ei gael wrth gymryd rhan yn yr Her. Eleni, rydyn ni’n gobeithio y bydd y cymeriadau rhyfeddol sydd wedi’u creu inni gan Tony Ross yn ysbrydoli mwy o blant nag erioed i gymryd rhan a defnyddio eu llyfrgell leol trwy gydol yr haf a’r tu hwnt.”