Dyfarnwyd contract 10 mlynedd i Freedom Leisure gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Stafford i reoli portffolio o gyfleusterau sy’n cynnwys theatr Fictoraidd, theatr stiwdio lai, tŷ tref Elisabethaidd, castell a chanolfan ymwelwyr, tair canolfan hamdden a stadiwm chwaraeon.
Mae’r ymddiriedolaeth hamdden ddielw, sy’n rheoli cyfleusterau hamdden a diwylliannol ar ran 22 o bartneriaid ledled Cymru a Lloegr, wedi cysylltu ag Awen am gefnogaeth tactegol â Gatehouse Theatre, yr Ancient High House, Castell Stafford sy’n cynnwys y cynhyrchiad blynyddol Shakespeare at the Castle.
Bydd Awen yn darparu cymorth sector-benodol ar docynnau, marchnata, rhaglennu digwyddiadau diwylliannol, cynhyrchu incwm a chodi arian.
Meddai Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen sydd hefyd yn rheoli amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau diwylliannol ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
“Yn Awen mae gennym gyfoeth o brofiad o ran cynnal lleoliadau celfyddydol a diwylliannol llwyddiannus, rydym wedi ein cynhyrfu i’w rannu gyda Freedom Leisure a’r staff sy’n gweithio yn y lleoliadau diwylliannol a threftadaeth maent yn eu gweithredu nawr yn Stafford. Rydym yn edrych ymlaen at gynnig ein gwybodaeth a’n syniadau i gefnogi Freedom yn eu cynlluniau uchelgeisiol i weld y cynnig diwylliannol yn Stafford yn mynd o nerth i nerth.”
Ychwanegodd Ivan Horsfall-Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr Freedom Leisure:
“Rydym wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wrth iddynt gefnogi’r gweithlu presennol o fewn lleoliadau bwrdeistref Stafford i adeiladu ar y gwasanaethau a’r cyfleusterau cyfredol o ansawdd uchel, a sicrhau bod pobl leol yn parhau i fwynhau’r dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yn yr ardal yn y ffordd orau bosibl.”